Os nad ydych chi wedi gallu dod o hyd i’r atebion i’ch cwestiynau yn ein rhan ‘Cwestiynau Cyffredin’, cysylltwch â Capita gan ddefnyddio un o’r sianeli canlynol:

Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

Ffôn

Gallwch ffonio Capita rhwng 8am a 8pm, dydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 9am a 5pm ar ddydd Sadwrn.

Gall rhywun arall ffonio ar eich rhan, ond bydd angen iddynt gael eich rhif Yswiriant Gwladol wrth law.

Er mwyn i ni eich cefnogi yn y ffordd orau, bydd angen i chi ffonio rhif yn seiliedig ar y rhif cyfeirnod a ddarperir yn eich llythyr apwyntiad.

Mae'r ddelwedd isod yn dangos ble i ddod o hyd i'ch rhif cyfeirnod a pha rif ffôn i'w ffonio.

Welsh_Finding your reference number

Mae'r ddelwedd yn dangos dwy fersiwn o lythyr apwyntiad hawliwr. Yn y fersiwn gyntaf, mae'r rhif cyfeirnod - sy'n dechrau gyda "PIP" - wedi'i leoli yn y gornel chwith uchaf. Yn yr ail fersiwn, mae'r cynllun yn wahanol: rhif Yswiriant Gwladol yr hawliwr yw'r rhif cyfeirnod, ac mae wedi'i leoli ar yr ochr dde.

Os gallwch weld rhif cyfeirnod sy'n dechrau gyda “PIP” yng nghornel chwith uchaf eich llythyr apwyntiad, ffoniwch 0808 178 8115.

Os yw eich llythyr apwyntiad yn dangos eich Rhif Yswiriant Gwladol fel y cyfeirnod ac wedi’i nodi ar ochr dde’r dudalen, ffoniwch 0800 072 0221.

Os nad oes gennych eich llythyr apwyntiad wrth law, peidiwch â phoeni, ffoniwch ni ar 0808 178 8115 a byddwn yn gallu eich helpu gyda’ch ymholiad.

Gwasanaeth cyfnewid fideo

Os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein gwasanaeth cyfnewid fideo.

Cysylltu â dehonglydd BSL

Gwasanaeth cyfnewid testun

Os oes gennych anawsterau lleferydd neu glyw, gallwch hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth cyfnewid testun ar 18001 0800 072 0221 (defnyddiwch gydag apiau NGT neu Relay UK).

E-bost

Gallwch e-bostio ein tîm yn uniongyrchol drwy contactus@capita-pip.co.uk

Post

Os byddai'n well gennych gysylltu â Capita drwy'r post, defnyddiwch y cyfeiriad hwn:

Capita HAAS
PO Box 307
Darlington
DL98 1AB

Sut i wneud sylw neu gwyn am ein gwasanaeth PIP

Capita sy’n gyfrifol am y broses asesu. Mae hyn yn cynnwys trefnu a chynnal asesiadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn a fideo. Dywedwch wrthym os ydych yn anhapus gydag unrhyw ran o’n gwasanaeth, fel y gallwn geisio gwella’r sefyllfa. Mae hyn yn ein galluogi i ddeall beth rydym yn ei wneud yn dda, a lle mae angen i ni wneud pethau’n well.

Gallwch gysylltu â Capita drwy unrhyw un o'r dulliau cyswllt uchod neu trwy ddefnyddio'r sianeli pwrpasol a restrir isod:

E-bost: complaints@capita-pip.co.uk
Post: PIP Complaints, PO Box 325, Darlington, DL1 9PH

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Credyd Cynhwysol (UC) a budd-daliadau eraill

Ffôn

Am unrhyw ymholiadau neu gymorth i gwblhau eich holiadur ESA50 neu UC50, cysylltwch â Capita ar:

0800 072 0222 (Cymru a Lloegr)
0800 072 0226 (llinell Gymraeg)

Mae'r llinell ymholiadau cwsmeriaid ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm, a dydd Sadwrn 9am tan 5pm.

Gwasanaeth cyfnewid testun

Os oes gennych anawsterau lleferydd neu glyw, gallwch hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth cyfnewid testun ar 18001 0800 072 0222 (defnyddiwch gydag apiau NGT neu Relay UK).

Sut i wneud sylw neu gwyn am ein gwasanaeth ESA, UC a budd-daliadau eraill

Capita sy’n gyfrifol am y broses asesu. Mae hyn yn cynnwys trefnu a chynnal asesiadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn a fideo. Dywedwch wrthym os ydych yn anhapus gydag unrhyw ran o’n gwasanaeth, fel y gallwn geisio gwella’r sefyllfa. Mae hyn yn ein galluogi i ddeall beth rydym yn ei wneud yn dda, a lle mae angen i ni wneud pethau’n well.

Gallwch gysylltu â Capita drwy unrhyw un o'r dulliau cyswllt uchod neu trwy ddefnyddio'r sianeli pwrpasol a restrir isod:

E-bost: Lot2.CustomerRelations@haas.dwp.gov.uk
Post: Capita ESA, PO Box 307, Darlington, DL1 9PH

Health assessment advisory service provided on behalf of Adran Gwaith a Phensiynau