Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd (HAAS)

Gwybodaeth ynglŷn â’ch asesiad

Rydym bob amser yn anelu at gynnal asesiad proffesiynol, gan ei gwneud yn glir beth y gallwch ei ddisgwyl gennym ni a'r hyn y mae angen i chi ei wneud. Byddwn yn gwneud ein gorau i wneud ein gwasanaeth yn hawdd ei ddefnyddio, byddwn yn gwrando arnoch ac yn sicrhau eich bod yn teimlo'n gyfforddus.

Pethau allweddol i'w cofio:

 

Clipfwrdd

Nid yw gweithiwr iechyd proffesiynol Capita sy'n eich asesu yn gwneud y penderfyniad ar eich cais. Gwneir hyn gan y DWP gan ddefnyddio'ch adroddiad asesiad ac unrhyw dystiolaeth arall yr ydych wedi'i darparu.

 

Pâr o bobl

Os oes angen i chi gael asesiad, bydd yn cael ei chynnal gyda gweithiwr iechyd proffesiynol a fydd yn eich trin â pharch.

 

Llyfr

Ni fydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwneud diagnosis o'ch cyflwr nac yn argymell triniaeth. Mae'n asesiad i ddeall sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi.

Dau berson yn ysgwyd llaw

Rydym yn gwybod y gall y broses hon fod yn straen i rai ac rydym yn eich annog i ddod â rhywun gyda chi i'r asesiad.

Negeseuon

Os oes angen seibiant arnoch ar unrhyw adeg yn ystod eich asesiad, rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol.

Ffeiliau

Mae llawer o sefydliadau cyngor annibynnol am ddim a all eich cefnogi gyda'ch cais. Dod o hyd i sefydliad yn eich ardal.

Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad DWP gallwch ofyn iddynt ailedrych ar eich achos.

Rydym yma i'ch cefnogi drwy'r broses. Cysylltwch â Capita os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon.

Amdanom ni a’n rôl

Capita ydyn ni, cwmni annibynnol sy'n gweithio gyda Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yng Nghymru a Lloegr i gynnal asesiadau'r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd (HAAS).

Ein rôl yw deall eich cyflwr iechyd neu anabledd, gan gefnogi DWP i asesu eich cais yn deg ac yn gywir. Bydd y DWP yn edrych ar yr adroddiad asesiad a'r dystiolaeth ategol rydych wedi'i darparu i wneud penderfyniad ar eich cais.

Cliciwch yma i ddarganfod darparwr asesiad

Gwryw-claf-siarad-gyda'i-feddyg
Health assessment advisory service provided on behalf of Adran Gwaith a Phensiynau