Os nad ydych chi wedi gallu dod o hyd i’r atebion i’ch cwestiynau yn ein rhan ‘Cwestiynau Cyffredin’, cysylltwch â Capita gan ddefnyddio un o’r sianeli canlynol:

Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

Ar-lein

Gallwch gysylltu â Capita yn gyflym a hwylus trwy ein ffurflen ymholiadau ar-lein.
Cofiwch, peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i ni, fel eich dyddiad geni neu eich rhif Yswiriant Gwladol.

Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â PIP, defnyddiwch y ffurflen isod. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn i gadarnhau eich cais.

Mae'r holl feysydd a nodir â * yn orfodol.

Cofiwch i beidio â darparu unrhyw wybodaeth fel eich rhif YG. Gallwch roi rhif cyfeirnod neu rif cais i ni.

Ffôn

Gallwch ffonio Capita rhwng 8am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a dydd Sadwrn 9am tan 5pm. Efallai y bydd rhywun arall yn galw ar eich rhan, ond bydd angen iddynt gael eich rhif Yswiriant Gwladol.

0808 178 8114 (Cymru a Lloegr)
0808 178 8115 (llinell Gymraeg)

Gwasanaeth cyfnewid fideo

Os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein gwasanaeth cyfnewid fideo.

Cysylltu â dehonglydd BSL

Gwasanaeth cyfnewid testun

Os oes gennych anawsterau lleferydd neu glyw, gallwch hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth cyfnewid testun ar 18001 0808 178 8114 (defnyddiwch gydag apiau NGT neu Relay UK).

E-bost

Gallwch e-bostio ein tîm yn uniongyrchol drwy contactus@capita-pip.co.uk

Post

Os byddai'n well gennych gysylltu â Capita drwy'r post, defnyddiwch y cyfeiriad hwn:

Capita HAAS
PO Box 307
Darlington
DL98 1AB

Sut i wneud sylw neu gwyn am ein gwasanaeth

Capita sy’n gyfrifol am y broses asesu. Mae hyn yn cynnwys trefnu a chynnal asesiadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn a fideo. Dywedwch wrthym os ydych yn anhapus gydag unrhyw ran o’n gwasanaeth, fel y gallwn geisio gwella’r sefyllfa. Mae hyn yn ein galluogi i ddeall beth rydym yn ei wneud yn dda, a lle mae angen i ni wneud pethau’n well.

Gallwch gysylltu â Capita drwy unrhyw un o'r dulliau cyswllt uchod neu trwy ddefnyddio'r sianeli pwrpasol a restrir isod:

E-bost: complaints@capita-pip.co.uk
Post: PIP Complaints, PO Box 325, Darlington, DL1 9PH

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Credyd Cynhwysol (UC) a budd-daliadau eraill

Ffôn

Am unrhyw ymholiadau neu gymorth i gwblhau eich holiadur ESA50 neu UC50, cysylltwch â Capita ar:

0800 072 0222 (Cymru a Lloegr)
0800 072 0226 (llinell Gymraeg)

Mae'r llinell ymholiadau cwsmeriaid ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm, a dydd Sadwrn 9am tan 5pm.

Gwasanaeth cyfnewid testun

Os oes gennych anawsterau lleferydd neu glyw, gallwch hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth cyfnewid testun ar 18001 0800 072 0222 (defnyddiwch gydag apiau NGT neu Relay UK).

Cwynion

E-bostio Capita: Lot2.CustomerRelations@haas.dwp.gov.uk

Ysgrifennu at Capita: Capita ESA, PO Box 307, Darlington, DL1 9PH

Health assessment advisory service provided on behalf of Adran Gwaith a Phensiynau