Mae Capita.com yn wefan sy’n eiddo i ac yn cael ei weithredu gan Capita plc a/neu gwmnïau cysylltiedig a’i is-gwmnïau. Mae mynediad i’r safle a’r defnydd ohoni yn ddarostyngedig i’r telerau ac amodau canlynol. Trwy ddefnyddio’r Wefan, ystyrir eich bod wedi derbyn y Telerau ac wedi cytuno i gydymffurfio â nhw.
1. Pwy ydyn ni a sut i gysylltu â ni.
1.1. Mae Capita plc yn gwmni cyfyngedig cyhoeddus cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, gyda’n swyddfa cofrestredig yn:
65 Gresham Street
Llundain
EC2V 7NQ
Rhif cwmni cofrestredig 2081330 a rhif TAW 618184140
1.2. Mae nifer o is-gwmnïau Capita plc yn rheoledig gan gyrff rheoleiddio. Gweld y rhestr.
1.3. I gysylltu â Capita, defnyddiwch y nodwedd ‘Cysylltwch â ni’ ar y Wefan.
2. Pwrpas y Wefan
2.1. Mae’r holl wybodaeth a’r deunyddiau sydd ar y Wefan yn cael eu darparu er gwybodaeth yn unig ac:
2.1.1. heb ei greu fel cynnig i werthu unrhyw wasanaeth neu gynnyrch Capita;
2.1.2. ddim yn fwriadol i greu perthynas ymgynghorol, ymddiriedol neu broffesiynol rhyngoch chi a Capita;
2.1.3. ddim yn fwriadol i fod yn gyngor y dylech ddibynnu arno.
Chi yn unig sy’n gyfrifol am unrhyw ddefnydd o’r deunyddiau sydd ar y Wefan. Rhaid i chi fod wedi derbyn cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn cymryd, neu ymatal rhag, cymryd unrhyw gamau gweithredu ar sail cynnwys y Wefan.
2.2. Gall y wybodaeth a ddarperir ar y Wefan fod yn gysylltiedig â chynhyrchion neu wasanaethau sydd ddim ar gael yn eich gwlad a/neu sydd ddim ar gael ar unrhyw adeg.
2.3. Ni fydd unrhyw wybodaeth ar y Wefan yn creu gwahoddiad i fuddsoddi yn Capita. Gall pris cyfranddaliadau a’r incwm sy’n deillio ohonynt ostwng, yn ogystal â chynyddu, ac efallai na fydd buddsoddwyr yn cael y swm gwreiddiol a fuddsoddwyd yn ôl. Nid yw perfformiad yn y gorffennol o reidrwydd yn ganllaw i berfformiad yn y dyfodol.
3. Telerau eraill sy’n berthnasol i chi
3.1. Mae’r Telerau hyn yn cynnwys y telerau ychwanegol canlynol sydd hefyd yn berthnasol at ddefnydd o’r Wefan:
3.1.1. Hysbysiad Preifatrwydd Capita
3.1.2. Hysbysiad Cwci Capita
3.1.3. Os ydych chi’n darparu cynnyrch neu wasanaethau i Capita, bydd rhain yn amodol i’n Telerau Prynu
4. Eiddo Deallusol
4.1. Capita yw perchennog neu’r trwyddedai i holl hawliau eiddo deallusol y Wefan a’r deunyddiau a gyhoeddir arno, gan gynnwys, heb gyfyngiadau, nodau masnach, logos, testun, delweddau, ffotograffau, meddalwedd, adroddiadau a fideos. Mae’r rhain yn cael eu diogelu gan gyfreithiau a chytundebau hawlfraint a chytuniadau ledled y byd. Cedwir pob hawl o’r fath.
4.2. Nid yw eich defnydd o’r Wefan a’i chynnwys yn rhoi unrhyw hawliau i chi i eiddo deallusol Capita, nac eiddo trydydd parti yn y Wefan a’i chynnwys.
4.3. Mae’r holl nodau masnach eraill nad ydynt yn eiddo i Capita ac sy’n ymddangos ar y Wefan yn eiddo i’w perchnogion priodol, a all fod, neu na allent fod yn gysylltiedig â Capita, yn perthyn i, neu’n cael eu noddi ganddynt. Dylech ofyn am awdurdod penodol i’w ddefnyddio, at unrhyw ddiben, unrhyw un o’r nodau masnach sy’n eiddo i Capita neu unrhyw drydydd parti.
4.4. Caniateir i chi i bori’r Wefan ac atgynhyrchu detholiadau trwy argraffu, lawrlwytho i ddisg galed a thrwy ddosbarthu i bobl eraill, ond, ymhob achos, mae hyn at ddibenion anfasnachol, gwybodaeth a phersonol yn unig, ac ar yr amod bod ein statws (a rhaid cydnabod bob amser bod unrhyw gyfranwyr a nodir) fel awduron cynnwys y Wefan.
4.5. Ni chaniateir gwerthu na dosbarthu unrhyw atgynhyrchiad o unrhyw ran o’r Wefan er budd masnachol, ac ni chaiff ei addasu na’i ymgorffori mewn unrhyw waith, cynhoeddiad neu wefan arall.
4.6. Os byddwch yn argraffu, copïo, neu lawrlwytho unrhyw ran o’n gwefan sy’n torri’r Telerau hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio’r Wefan yn dod i ben ar unwaith a bydd rhaid i chi, ar gais Capita, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau yr ydych wedi’u gwneud.
5. Defnydd o’r Wefan
5.1. Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r Wefan yn unol â’r holl gyfreithiau a rheoliadau cymwys sy’n berthnasol i’r awdurdodaeth yr ydych yn cyrchu’r Wefan ohoni. Ni fyddwch yn defnyddio’r Wefan mewn unrhyw ffordd a allai arwain at annog, caffael neu gyflawni unrhyw weithgaredd troseddol neu anghyfreithlon.
5.2. Ni ddylech chi:
5.2.1. ddefnyddio’r Wefan mewn modd sy’n ymyrryd ar hawliau person neu gwmni arall (gan gynnwys, heb gyfyngiad, hawliau eiddo deallusol neu gyfrinachedd);
5.2.2. gamddefnyddio’r Wefan drwy gyflwyno firysau, ‘trojans’, ‘worms’ neu’ logic bombs’ neu ddeunydd arall yn fwriadol, sy’n faleisus neu’n dechnegol niweidiol;
5.2.3. geisio cael mynediad heb awdurdod i’r Wefan, y gweinyddwyr ym mhle mae’r Wefan yn cael ei storio neu ar unrhyw weinyddwr, gyfrifiadur neu fas data sy’n gysylltiedig â’r Wefan.
5.2.4. ymosod ar y Wefan trwy ymosodiad gwrthod-gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod-gwasnaeth niferus.
Wrth dorri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Bydd Capita yn hysbysu’r awdurdodau gorfodi y gyfraith perthnasol am unrhyw doriad o’r fath, a byddent yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu eich hunaniaeth iddynt. Os bydd toriad o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio’r Wefan yn dod i ben ar unwaith.
5.3. Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod pawb sy’n cyrchu’r Wefan drwy eich cysylltiad rhyngrwyd yn ymwybodol o’r Telerau hyn a thelerau ac amodau perthnasol eraill, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.
5.4. Rydych yn cytuno i ad-dalu Capita yn llawn mewn perthynas â’r holl golledion, costau, gweithredoedd, hawliau ac atebolrwydd i Capita o ganlyniad i unrhyw dorri, neu beidio â chydymffurfio gennych chi â’r Telerau hyn neu unrhyw ddata a gyflwynwyd gennych i Capita.
6. Ymwadiad a chyfyngadau ar atebolrwydd
6.1. Nid yw Capita yn gwarantu y bydd y Wefan, nac unrhyw gynnwys sydd arni, ar gael bob amser neu’n ddi-dor, ac nid ydynt yn derbyn unrhyw atebolrwydd yn hyn o beth. Mae Capita yn cadw’r hawl i newid y wybodaeth ar unrhyw adeg, heb unrhyw rybudd.
6.2. Mae’r holl ddeunyddiau sydd wedi’u cynnwys ar y Wefan neu sydd ar gael drwyddi yn cael eu darparu “fel y mae” ac heb warant o unrhyw fath i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith berthnasol. Ni roddir unrhyw gynrychiolaeth na gwarant o ran cywirdeb, cyfiawnder neu addasrwydd y cynnwys at unrhyw ddiben neu ddefnydd penodol neu unrhyw wefan sy’n gysylltiedig. Nid yw Capita yn gwarantu:
6.2.1. nad oes unrhyw wallau a/neu fod ei chynnwys yn gyfredol;
6.2.2. unrhyw ganlyniadau sy’n deillio o ddefnyddio unrhyw ddeunydd sydd ar gael ar y Wefan;
6.2.3. nad oes unrhyw firysau, ‘worms’, ‘trojans’ a dyfeisiau dinistriol tebyg, a dylech gymryd camau priodol mewn perthynas â’r risg hon.
6.3. Nid yw’r wybodaeth sydd ar y Wefan yn ymestyn nac yn addasu’r warant a allai fod yn berthnasol i chi o ganlyniad i berthynas gytundebol â Capita.
6.4. Ac eithrio i’r graddau na chaniateir cyfyngiad o’r fath dan gyfraith Lloegr, ni fydd Capita na’i weithwyr yn atebol dros unrhyw golled, difrod neu draul gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw golled mewn elw, tarfu ar fusnes, colli cyfle busnes, colli data, ewyllys da neu enw da, neu golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol yn deillio o gontract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall allan o:
6.4.1. unrhyw ddibyniaeth ar wybodaeth a gynhwysir ar y Wefan neu unrhyw wefan sy’n gysylltiedig;
6.4.2. mynediad at neu ddefnydd o neu anallu i ddefnyddio’r Wefan sy’n gysylltiedig ag ef; neu
6.4.3. dyfeisiadau dinistiol (gan gynnwys firysau).
7. Dolenni i wefannau trydydd parti
7.1. Ar fannau gwahanol ar draws y Wefan, efallai y cewch chi gynnig dolenni awtomatig i ymweld â gwefannau eraill. Nid yw hyn yn dynodi bod Capita o reidrwydd yn gysylltiedig ag unrhyw un o’r gwefannau eraill hyn na’u perchnogion ac nid yw ychwaith yn awgrymu unrhyw ardystiad i’r deunydd a gynhwysir ar wefannau o’r fath nac mewn unrhyw gysylltiad â’u gweithredwyr. Ni fydd gan Capita, na’i weithwyr, unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd o unrhyw natur am y gwefannau eraill hyn na’r wybodaeth a gynhwysir ynddynt.
8. Rheolau ynghylch cysylltu â’r Wefan
8.1. Gallwch gysylltu â thudalen gartref y Wefan, ar yr amod:
8.1.1. eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n deg a chyfreithlon, ac nad yw’n niweidio enw da Capita nac yn cymryd mantais ohono;
8.1.2. rhaid i chi beidio â sefydlu dolen i’r Wefan yn y fath fodd ag i awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ardystiad ar ran Capita lle nad oes un yn bodoli.
8.1.3. rhaid i chi beidio â sefydlu dolen i’n Gwefan o fewn unrhyw wefan nad yw’n eiddo i chi; a
8.1.4. ni ddylai’r Wefan gael ei fframio ar unrhyw wefan arall, ac ni chewch greu dolen i unrhyw ran o’r Wefan ac eithrio’r tudalen gartref.
8.2. Mae Capita yn cadw’r hawl i dynnu caniatâd cysylltu yn ôl, heb unrhyw rybudd.
9. Cyfryngau Cymdeithasol
9.1. Trwy ddefnyddio a rhyngweithio â Capita ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol, ystyrir eich bod yn cytuno i gydmffurfio â’r cymal hwn.
9.2. Nid yw Capita yn gyfrifol am, nac yn cadarnhau cywirdeb, unrhyw sylwadau neu ddeunydd sy’n cael ei bostio gan ddefnyddwyr eu sianeli cyfryngau cymdeithasol. Nid yw sylwadau a deunydd o’r fath yn adlewyrchiad nac yn arwydd o farn neu werthoedd Capita.
9.3. Mae Capita yn cadw’r hawl i ddileu sylwadau sy’n:
9.3.1. difenwi, cam-drin, bygwth, aflonyddu, stelcian neu fel arall, yn torri hawliau cyfreithiol eraill;
9.3.2. yn hiliol, rhywiaethol, homoffobig, rhywiol eglur, difrïol neu fel arall yn annymunol;
9.3.3. yn torri telerau defnyddio’r llwyfan cyfryngau cymdeithasol y cânt eu postio arno;
9.3.4. yn cynnwys rhegfeydd neu iaith arall sy’n debygol o dramgwyddo;
9.3.5. gall dorri’r gyfraith neu gydoddef neu annog gweithgaredd anghyfreithlon;
9.3.6. hysbysebu cynnyrch neu wasanaethau er elw;
9.3.7. yn cael eu gwneud i ymddangos fel pe baent wedi’u postio gan rywun arall; a
9.3.8. yn cael eu hystyried yn sbam, gan gynnwys postio ailadroddus o’r un neges, neu bost sydd ddim yn gysylltiedig â Capita.
9.4. Mae Capita yn cadw’r hawl i flocio unrhyw unigolyn sy’n torri cymal 9.3.
10. Gwahaniad
10.1. Os yw unrhyw ddarpariaeth neu rhan o’r ddarpariaeth o’r Telerau hyn yn neu’n dod yn annilys, y anghyfreithlon neu’n anorfodadwy, cânt eu dileu, ond ni fydd hynny’n effeithio ar ddilysrwydd a gorfodadwyedd gweddill y Telerau hyn.
11. Addasiadau i’r Telerau defnyddio
11.1. Mae Capita yn cadw’r hawl i newid y Telerau hyn, ar unrhyw amser ac heb unrhyw rybudd. Byddwch yn cael eich rhwymo’n awtomatig gan yr addasiadau hyn pan fyddwch yn defnyddio’r Wefan a dylech ddarllen y Telerau o bryd i’w gilydd.
12. Y Gyfraith lywodraethol ac awdurdodaeth
12.1. Bydd y Telerau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â Chyfraith Lloegr ac mae pob parti i’r Telerau hyn yn ufuddhau i awrdurodaeth unigryw llysoedd Lloegr.