Mae'n rhaid i'n Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol gael eu cofrestru gyda'u corff llywodraethu proffesiynol priodol:
Ar gyfer meddygon, Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yw hwn. Rhaid iddynt fod ar y Rhestr o Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig a bod â thrwydded gyfredol i ymarfer, ond nid o reidrwydd ar y rhestr meddygon teulu neu;
Ar gyfer nyrsys hwn yw'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)
Ar gyfer ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol hwn yw'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
Rhaid i'n holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol feddu ar brofiad clinigol ôl-gofrestru a rhaid iddynt gwblhau proses hyfforddi drylwyr a chynhwysfawr yn llwyddiannus i ddarparu asesiadau yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol cyn y gall yr Adran Gwaith a Phensiynau eu cymeradwyo i weithio yn y maes hwn.
Mae ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn arbenigwyr mewn dadansoddi anabledd, gan ganolbwyntio ar effeithiau’r cyflwr, nid ar y cyflwr ei hun.