Cyngor cam wrth gam yn arwain at, yn ystod ac ar ôl eich asesiad fideo
Ewch i'r adran berthnasol:
Os ydych chi'n gwneud cais am ESA mae'n bosibl y byddwch yn derbyn holiadur gallu i weithio, a elwir hefyd yn ffurflen ESA50. Llenwch y ffurflen mor llawn â phosibl, gan ateb yr holl gwestiynau perthnasol. Mae'n bwysig eich bod yn dychwelyd y ffurflen erbyn y dyddiad ar y llythyr a anfonir atoch.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen i benderfynu pa fath o asesiad y gallai fod ei angen arnoch.
Gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen ESA50 i'ch cyfrifiadur. Os ydych chi'n defnyddio'r ffurflen ar-lein, bydd rhaid ei llenwi, ei hargraffu, ei llofnodi a'i dychwelyd i'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Os oes angen help arnoch i lenwi'r ffurflen, gallwch nawr siarad ag ymgynghorydd penodol ar ein llinell gymorth trwy ffonio 0800 072 0222.
Dehonglwyr
Rhowch wybod i ni o leiaf ddau ddiwrnod cyn eich asesiad os oes angen dehonglydd iaith neu BSL arnoch ar gyfer eich asesiad.
Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod dehonglydd ar gael i chi.
Trefniadau apwyntiad
Byddwn yn anfon llythyr gyda'ch dyddiad asesu. Bydd gan eich llythyr apwyntiad rif cyswllt a gwybodaeth am yr asesiad, gan gynnwys gwybodaeth ar sut i ymuno â'ch asesiad fideo.
Darllenwch y llythyr hwn cyn eich asesiad.
Os oes angen help arnoch cyn eich asesiad, ffoniwch ein tîm ymholiadau cwsmeriaid ar 0800 072 0222. Gallwch ein ffonio am ofynion penodol, cyfieithwyr, cyfleusterau llawr gwaelod, cydymaith awdurdodedig, ceisiadau recordio sain, a mwy.
Mae'r llinell ymholiadau cwsmeriaid ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm, a dydd Sadwrn 9am tan 5pm.
Beth sy'n digwydd gyda'ch cefnogaeth cyn eich asesiad
Tra byddwch yn aros i'ch asesiad gael ei gwblhau, byddwch yn derbyn taliad y gyfradd asesu a ddynodir o dan ESA.
Sylwch fod ffactorau gwahanol yn cael eu hystyried a allai effeithio ar eich hawl i fudd-dal. Am fwy o wybodaeth ewch i gov.uk.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar wefan y Llywodraeth.
Tystiolaeth Bellach
| Mae’r pethau nad oes angen i Capita eu gweld yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am eich cyflyrau meddygol nad ydynt yn ymwneud â chi'n bersonol megis: |
---|---|
|
|
Efallai y gofynnir i chi am fanylion y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol neu'r gofalwyr sy'n gwybod fwyaf am eich cyflyrau iechyd, salwch ac anableddau – ehangwch y rhestr isod i weld pwy allai'r rhain fod:
Cofiwch – anfonwch gopïau o wybodaeth feddygol neu wybodaeth arall atom os oes gennych chi nhw eisoes yn unig. Peidiwch â gofyn na thalu am wybodaeth newydd nac anfon dogfennau gwreiddiol atom. Ysgrifennwch eich rhif Yswiriant Gwladol ar bob darn o wybodaeth a anfonwch atom.
Os nad ydych wedi derbyn ffurflen ESA50 eto, gallai fod yn haws i chi os byddwch yn dechrau casglu peth o'ch gwybodaeth feddygol ymlaen llaw. Mae'r ffurflen hon yn ein galluogi i benderfynu pa fath o asesiad efallai y bydd ei hangen arnoch.
Cyn gynted ag y byddwch wedi cwblhau'r ffurflen, mae angen i chi ei llofnodi a'i dyddio, a'i dychwelyd yn yr amlen a ddarparwyd gennym. Mae'n bwysig eich bod yn dychwelyd y ffurflen cyn y dyddiad y mae’n ddyledus.
Efallai na fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu parhau i dalu budd-daliadau i chi os na fyddwn yn derbyn y ffurflen hon mewn pryd.
Os na allwch ddychwelyd y ffurflen mewn pryd, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Mae yna hefyd flwch sy'n eich galluogi i esbonio pam roedd eich ffurflen yn hwyr. Os oes gennych unrhyw bryderon o gwbl am y ffurflen, cysylltwch â Capita cyn gynted ag y gallwch neu gofynnwch i gynrychiolydd gysylltu â Capita.
Beth ddylwn i ei wneud cyn yr apwyntiad fideo?
Beth sydd ei hangen arnoch ar gyfer eich asesiad
1.
Cyfrifiadur bwrdd gwaith, gliniadur, tabled, neu ffôn symudol sydd â chamera sy'n wynebu'r blaen, seinyddion, a meicroffon
2.
Cysylltiad rhyngrwyd sefydlog, da. Os gallwch wylio fideo ar-lein heb unrhyw broblemau, dylai eich cysylltiad rhyngrwyd fod yn addas ar gyfer asesiad fideo
3.
Ardal breifat, wedi'i goleuo'n dda lle na fydd tarfu arnoch
Ac un o'r porwyr hyn:
Safari (cyfrifiadur Apple, iPad neu iPhone)
Google Chrome (cyfrifiadur Windows neu dabled/ffôn clyfar Android)
Microsoft Edge (cyfrifiadur Windows)
Mwy o wybodaeth am yr hyn y bydd ei angen arnoch ar gyfer eich asesiad fideo.
Os ydych chi'n defnyddio ffôn symudol Samsung ar gyfer eich asesiad fideo, efallai y bydd gennych broblem gyda'ch porwr. Os gwelwch y sgrin gwall, copïwch a gludwch y ddolen i'r ystafell aros ar Google Chrome. Os nad oes gennych Google Chrome eisoes, gallwch ei lawrlwytho. Gallech hefyd geisio defnyddio dyfais wahanol, os oes gennych un.
Os nad oes gennych un neu fwy o'r uchod, neu os yw eich cyflwr iechyd neu anabledd yn golygu na allwch gymryd rhan mewn asesiad fideo, cysylltwch â ni ar unwaith. Mae hyn er mwyn i ni allu trafod y ffordd orau o gynnal eich asesiad.
Gwiriwch fod eich dyfais wedi'i gosod yn gywir
Mae'n ddefnyddiol gwirio bod eich dyfais wedi'i gosod yn gywir cyn eich asesiad fideo.
Os yw'ch dyfais wedi'i gosod yn gywir, fe welwch sgrin gyda’r neges 'You are ready to make calls’.
Os byddwn yn sylwi nad yw rhywbeth yn hollol iawn, efallai y gwelwch y sgrin ‘Testing in progress’.
Mae hyn fel arfer yn hawdd i'w ddatrys. Mwy o wybodaeth ar sut i gael eich dyfais yn barod ar gyfer eich asesiad fideo.
Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cyflwyno ei hun ac yn esbonio'r asesiad i chi. Byddant yn cofnodi gwybodaeth ar gyfrifiadur. Efallai na fydd rhai cwestiynau'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch cyflwr meddygol, ond â gweithgareddau dyddiol. Bydd yr asesiad yn para rhwng 20 munud ac 1 awr yn dibynnu ar eich cyflwr iechyd neu anabledd.
Beth i ddod gyda chi i'r asesiad:
- Unrhyw feddyginiaeth rydych yn ei gymryd
- Unrhyw wybodaeth gan eich Meddyg Teulu neu Arbenigwr sy'n esbonio sut mae'ch cyflwr yn effeithio arnoch chi
Gall y cwestiynau asesu gynnwys:
- Pryd ddechreuodd eich salwch neu anabledd
- Sut mae'ch cyflwr yn newid o ddydd i ddydd
- Sut mae'n effeithio ar eich bywyd bob dydd
- Sut mae'n effeithio ar eich hwyliau a'r ffordd rydych chi'n ymddwyn
- Sut rydych chi'n ymdopi â phethau o ddydd i ddydd
Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cofnodi gwybodaeth am eich poen, blinder a'r feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd.
Rydym yn darparu Adroddiad Asesiad i'r DWP sy'n ddiduedd ac yn darparu cyngor meddygol wedi’i gyfiawnhau ynghylch sut mae eich cyflwr meddygol yn effeithio arnoch ar hyn o bryd. Mae hyn yn dilyn deddfwriaeth y llywodraeth a'r prosesau y cytunwyd arnynt gan DWP.
Y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol
Mae ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn mynd trwy gwrs hyfforddi wedi'i ddylunio'n benodol, a gymeradwywyd gan DWP. Maent yn feddygon, nyrsys a ffisiotherapyddion sydd wedi'u cofrestru gyda'u corff llywodraethu. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Y Cyngor Meddygol Cyffredinol
- Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Y Cyngor Proffesiynau Iechyd.
Dod â rhywun gyda chi i’r asesiad
Mae croeso i chi ddod â pherthynas, gofalwr neu ffrind gyda chi. Er y bydd yr asesiad yn canolbwyntio arnoch chi, gall cydymaith gynnig cefnogaeth ddefnyddiol i chi.
Cymryd nodiadau
Mae croeso i chi neu'ch cydymaith gymryd nodiadau at eich defnydd personol. Ni fydd eich nodiadau yn rhan o'r adroddiad meddygol a anfonwn at y DWP.
Ar ôl eich asesiad mae ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cwblhau adroddiad gan ddefnyddio meini prawf a nodwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Mae hyn er mwyn rhoi barn feddygol ddiduedd, wedi’i chyfiawnhau i wneuthurwr penderfyniadau’r DWP ynghylch sut mae eich cyflwr meddygol yn effeithio arnoch chi.
Bydd yr Adroddiad Asesu yn disgrifio'ch cyflyrau meddygol a'r gweithgareddau rydych chi'n eu gwneud mewn diwrnod arferol.
Mae'r adroddiad yn un darn o wybodaeth a ddefnyddir gan y DWP wrth benderfynu ar eich cais. Nid yw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n cynnal eich asesiad yn gwneud unrhyw benderfyniad am eich lwfans, eich budd-daliadau na’ch credydau.
Gallwch ofyn am gopi o'r adroddiad llawn gan swyddfa'r DWP sy'n ymdrin â'ch hawliad.
Penderfyniadau ar geisiadau
Bydd y DWP yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais.
Mae’r DWP yn gwneud penderfyniadau ar geisiadau. Dylech gyfeirio unrhyw gwestiynau neu bryderon am ganlyniad eich cais i swyddfa’r DWP sy’n ymdrin â’ch cais. Byddant yn gwybod pa wybodaeth y maent wedi’i defnyddio i benderfynu ar eich hawl. Nid yw Capita yn cymryd rhan yn y broses benderfynu ac nid yw’n gwybod canlyniad asesiadau.
*[DWP]: Adran Gwaith a Phensiynau
*[ESA]: Lwfans Cyflogaeth a Chymorth