Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) i blant, sy’n cael ei adnabod fel Lwfans Byw i'r Anabl (Plentyn) (DLA) yn fudd-dal di-dreth, heb unrhyw gostau ychwanegol.

Mae hwn ar gael i rai dan 16 oed sydd, oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd, â phroblemau symudedd a/neu sydd ag anghenion sy'n sylweddol fwy na phlentyn yr un oed heb yr anabledd neu'r cyflwr iechyd. Gallwch ddarganfod mwy am DLA i blant ar wefan y Llywodraeth.

Ar gyfer y rhan fwyaf o hawlwyr ni fydd angen asesiad ond os oes angen un, gallwch ddarganfod mwy isod.

Cyn eich asesiad

I wneud cais am Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer plentyn, mae angen i chi fod yn rhiant iddo/iddi neu ofalu amdano/amdani fel petaech yn rhiant. Mae hyn yn cynnwys llys-rieni, gwarcheidwaid, neiniau a theidiau, rhieni maeth neu frodyr neu chwiorydd hŷn.

Os yw eich plentyn yn byw yng Nghymru neu Loegr ar hyn o bryd, gallwch wneud cais drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) naill ai drwy:

Rhaid i anabledd neu gyflwr iechyd y plentyn olygu bod o leiaf un o'r canlynol yn berthnasol:

  • mae angen llawer mwy o ofal arno/arni na phlentyn o'r un oedran nad oes ganddo/ganddi anabledd neu gyflwr iechyd
  • mae ef/hi yn ei chael hi'n anodd symud o gwmpas

Mae'n rhaid ei fod/ei bod wedi cael yr anawsterau hyn am o leiaf 3 mis ac yn disgwyl iddynt barhau am o leiaf 6 mis.

Mae'r taliadau'n cael eu rhannu'n ddau faes, cydran gofal, a chydran symudedd. Mae cyfraddau gwahanol ar gael ar gyfer y naill a’r llall yn dibynnu ar ddifrifoldeb y cyflwr iechyd neu anabledd.

Er mwyn hawlio'r gyfradd uchaf ar gyfer symudedd, rhaid i'r plentyn fod o leiaf 3 blwydd oed neu’n hŷn, ar gyfer y gyfradd symudedd is rhaid i'r plentyn fod o leiaf 5 mlwydd oed neu'n hŷn.

Os yw'ch plentyn o dan yr oedran hwn a'ch bod yn hawlio'r Lwfans Byw i'r Anabl ar ei ran/ei rhan, dylech gael pecyn hawlio 6 mis cyn iddo/iddi droi'n 3 oed a 6 mis cyn iddo/iddi droi'n 5 oed. Yna gallwch wneud cais am y gydran symudedd os ydych chi'n credu ei fod/ei bod yn gymwys amdani.

Cydran gofal

Mae'r gyfradd y mae'r plentyn yn ei chael yn dibynnu ar lefel y gofal sydd ei hangen arno/arni, er enghraifft: 

Cyfradd isaf

Help am ychydig o'r dydd.

Cyfradd ganol

Cymorth cyson neu oruchwyliaeth barhaol yn ystod y dydd, goruchwyliaeth yn ystod y nos neu rywun i helpu tra byddant ar ddialysis.

Cyfradd uchaf

Cymorth neu oruchwyliaeth drwy gydol y dydd a'r nos, neu mae gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod ganddo/ganddi 12 mis neu lai i fyw.

Cydran symudedd

Mae'r gyfradd y mae'r plentyn yn ei chael yn dibynnu ar lefel y cymorth y mae angen iddo/iddi ei chael, er enghraifft:

Cyfradd isaf

Gall gerdded ond mae angen help a goruchwyliaeth arno/arni yn yr awyr agored.

Cyfradd uchaf

Ni all gerdded, dim ond cerdded pellter byr heb boen ddifrifol, gall fynd yn sâl iawn os yw’n ceisio cerdded neu os yw’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg/ei golwg.

Os ydych yn gwneud cais am DLA i blentyn, efallai y gofynnir i chi ddod ag ef/â hi i mewn ar gyfer asesiad. Mae hyn fel arfer oherwydd bod angen mwy o wybodaeth cyn y gall DWP benderfynu ar y cais.

Yn ystod yr asesiad

Bydd yr asesiad yn cael ei gynnal gan un o’n gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac mae'n debygol o fod yn wahanol i'r hyn y byddech yn ei ddisgwyl gan feddyg teulu neu ymgynghorydd ysbyty. Nid yw'r asesydd yno i wneud diagnosis neu drin cyflwr meddygol ond i asesu sut mae cyflwr yn effeithio ar y plentyn.

I wneud hyn, efallai y bydd angen i'r asesydd ymarferol gynnal archwiliad corfforol neu beidio.

Mae gan ein haseswyr ymarferol, sy'n rhoi cyngor i'r Awdurdod, brofiad o weithio gyda phlant (e.e. nyrs/meddyg pediatrig, meddyg teulu, neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall sydd â phrofiad proffesiynol perthnasol o weithio gyda phlant).

Bydd yr asesydd yn trafod hanes meddygol y plentyn, unrhyw feddyginiaeth a gweithgareddau yr ymgymerir â nhw yn ystod diwrnod arferol. Bydd hyn yn cael ei recordio, ond ni fydd yn gofnod gair-am-air. Gallwch ddod â gwybodaeth ychwanegol neu dystiolaeth feddygol i'r asesiad i helpu'r asesydd gyda'u adroddiad.

Bydd yr asesydd yn trafod hanes meddygol y plentyn, unrhyw feddyginiaeth a gweithgareddau a wneir mewn diwrnod arferol. Bydd hyn yn cael ei gofnodi ond ni fydd yn gofnod gair-am-air.

Byddwn yn gofyn am eich caniatâd llafar er mwyn i'r archwiliad corfforol fynd yn ei flaen, os bydd angen. Ni fydd angen tynnu dillad.

Ar ôl eich asesiad

Ar ôl eich asesiad mae ein gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cwblhau adroddiad gan ddefnyddio meini prawf a nodwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Mae hyn er mwyn rhoi barn feddygol ddiduedd, wedi’i chyfiawnhau i wneuthurwr penderfyniadau’r DWP ynghylch sut mae’r cyflwr meddygol yn effeithio ar y plentyn.

Mae'r adroddiad yn un darn o wybodaeth a ddefnyddir gan y DWP wrth benderfynu ar gais. Nid yw’r gweithiwr gofal iechyd proffesoynol sy’n gwneud eich asesiad yn gwneud unrhyw benderfyniad am eich lwfans, eich budd-daliadau na’ch credydau, ac ni fyddent yn gwybod canlyniad eich cais.

Y DWP sydd yn gwneud penderfyniadau ar geisiadau, a nhw fydd yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais. Dylech gyfeirio unrhyw gwestiynau neu bryderon am am eu penderfyniad at swyddfa’r DWP sy’n ymdrin â’ch cais, gan mai nhw fydd yn gwybod pa wybodaeth cafodd ei defnyddio i benderfynu ar eich cais.

Bydd angen i'ch plentyn wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) pan fyddent yn troi’n 16 oed.

Pan fyddant yn gwneud cais am PIP

Bydd eich plentyn yn derbyn llythyr yn ei wahodd/ei gwahodd i wneud cais am PIP. Bydd y llythyr yn cael ei anfon:

  • yn fuan ar ôl ei ben-blwydd/ei phen-blwydd yn 16 oed
  • pan fydd yn gadael yr ysbyty, os oedd yn yr ysbyty ar ei ben-blwydd/ei phen-blwydd yn 16 oed
  • tua 20 wythnos cyn i'w dyfarniad DLA ddod i ben, os dyfarnwyd DLA iddo/iddi o dan reolau arbennig i bobl a allai fod â 12 mis neu lai i fyw
Health assessment advisory service provided on behalf of Adran Gwaith a Phensiynau