Mae'r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd yn talu treuliau ar gyfer teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gallwn dalu tuag at gostau tanwydd ar gyfer ceir preifat. Rydym hefyd yn ariannu cost parcio pan nad yw ar gael yn y Ganolfan Asesu.
Efallai y byddwn hefyd yn talu costau cydymaith, perthynas, gofalwr neu blant ifanc a fyddai fel arall yn cael eu gadael heb oruchwyliaeth. Os ydych yn dymuno gwneud cais i gydymaith awdurdodedig deithio gyda chi, rhaid i chi gysylltu â'n llinell Ymholiadau cyn eich asesiad ar 0800 072 0226.
Dylech ddefnyddio'r bws, y trên neu gar preifat. Prynwch docynnau dychwelyd lle bo hynny'n bosibl a chadwch bob tocyn a derbynneb. Byddwn yn gallu eich talu'n gyflymach os byddwch yn dod â manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu gyda chi.
Er mwyn cael eich talu am unrhyw dreuliau, bydd angen i chi lenwi a chyflwyno ffurflen gostau. Gallwch ofyn i'r derbynnydd yn y Ganolfan Asesu am help i lenwi'r ffurflen. Cadwch eich holl dderbynebau os gwelwch yn dda. Dylech dderbyn taliad am eich costau tua phythefnos ar ôl i chi gyflwyno'r ffurflen.