Mae Capita yn trefnu ac yn cynnal asesiadau ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a’r Weinyddiaeth Amffiddyn (MOD). Mae Maximus yn darparu asesiadau ar ran Capita.

Os ydych yn hawlio budd-daliadau o ganlyniad i anabledd, anaf neu salwch, efallai y bydd DWP yn gofyn i chi gael asesiad gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymwys fel rhan o'ch proses hawlio.

Mae ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cynnal yr asesiadau; gan ddefnyddio meini prawf a nodwyd gan y Llywodraeth ac yn rhoi cyngor annibynnol i’r DWP mewn adroddiad asesu.

Gellir cynnal asesiadau wyneb yn wyneb mewn canolfan asesu, dros y ffôn neu drwy fideo.

Penderfynwyr budd-dal yn adolygu'r adroddiad asesu, ynghyd ag unrhyw wybodaeth ychwanegol arall y maent wedi'i derbyn, i benderfynu ar eich hawl i fudd-dal. Nid yw Capita yn penderfynu ar eich hawl i fudd-dal, ac y DWP fydd yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais.

Ni allwn roi cyngor i chi na rhoi barn ar ganlyniad eich cais. Nid ydym yn cael gwybod am ganlyniad penderfyniadau unigol, ac nid oes gennym unrhyw dargedau sy'n gysylltiedig â phenderfyniadau a wneir.

Dysgwch fwy am y mathau o fudd-daliadau a sut y cânt eu hasesu:

Health assessment advisory service provided on behalf of Adran Gwaith a Phensiynau