Cyngor cam wrth gam yn arwain i fyny at, yn ystod ac ar ôl eich Gwasanaeth Cyfnewid Fideo
Dewisiwch o’r isod er mwyn neidio i’r adran berthnasol:
Os oes angen dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) arnoch
Ar gyfer pobl Fyddar neu Drwm eu Clyw sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Bydd eich asesiad ffôn yn cael ei gynnal gan ddefnyddio ein gwasanaeth cyfnewid fideo.
Mae'r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac mae'r dehonglwyr yn gwbl gymwys a chofrestredig.
Os cewch eich gwahodd i gael asesiad ffôn gan ddefnyddio ein gwasanaeth cyfnewid fideo ond nad oes gennych yr offer angenrheidiol, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.
Gadewch i ni wybod os hoffech chi...
- Newid eich apwyntiad - mae'n bwysig iawn eich bod yn dod i’ch apwyntiad. Os na wnewch hynny, byddwn yn dychwelyd eich cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau. Os na allwch ddod i’ch apwyntiad am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni ar unwaith. Dim ond unwaith y gallwch newid eich apwyntiad.
- Gofyn am gyfieithydd iaith neu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.
- Gofyn am apwyntiad gydag asesydd ymarferol rhywedd penodol.
Beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich asesiad Sign Video
Cliciwch ar yr arwydd + am fanylion.
Pa ddyfais sydd angen i mi ei ddefnyddio?
I ddefnyddio SignVideo, bydd angen tri pheth arnoch fel gofynion sylfaenol:
1 Dyfais:
Gall fod yn un o'r canlynol:
Ap Windows PC
Ap Apple Mac
Ap iOS
Ap Android
SignVideo Web
2 Gwegamera
Gall fod yn un i’w blygio i mewn neu’n un integredig.
3 Cysylltiad rhyngrwyd da
Am y profiad gorau gyda SignVideo gall eich cysylltiad rhyngrwyd fod yn unrhyw un o'r canlynol:
Rhwydwaith symudol 3G, 4G, 5G
Band eang/ethernet wedi’i blygio i mewn
WiFi
Pwy all ymuno â chi yn eich asesiad?
Rydym yn eich annog i gael rhywun gyda chi yn ystod eich asesiad. Gallai hyn fod yn ffrind, aelod o'r teulu, gofalwr neu weithiwr cymorth. Ni ddylent siarad ar eich rhan, ond gallant eich helpu i ateb unrhyw gwestiynau neu esbonio'r anawsterau rydych chi'n eu hwynebu yn fwy eglur. Os bydd eich cydymaith yn cyfieithu neu'n dehongli ar eich rhan, rhaid iddo fod dros 18 oed.
Rydym yn eich annog i gael rhywun gyda chi yn ystod eich asesiad. Gallai hyn fod yn ffrind, aelod o'r teulu, gofalwr neu weithiwr cymorth.
Ni ddylent siarad ar eich rhan, ond gallant eich helpu i ateb unrhyw gwestiynau neu esbonio'r anawsterau rydych chi'n eu hwynebu yn fwy eglur.
Os bydd eich cydymaith yn cyfieithu neu'n dehongli ar eich rhan, rhaid iddo fod dros 18 oed.
Dyma rai canllawiau defnyddiol y gallwch eu lawrlwytho
Dyma rai fersiynau Hawdd eu Deall o'n canllawiau
Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn cyflwyno eu hunain trwy ddweud eu henw wrthych, a dweud eu bod yn dod o Capita PIP.
Bydd angen i’r gweithiwr iechyd proffesiynol ofyn rhai cwestiynau adnabod i chi cyn y gall asesiad fynd yn ei flaen. Os oes gennych unrhyw bryderon nad yw’r gweithiwr iechyd proffesiynol yn pwy y maen nhw’n dweud ydynt, cysylltwch â ni.
Mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol wedi’u hyfforddi’n arbennig i gynnal asesiadau swyddogaethol.
Mae’n bwysig i gofio nad yw’r asesiad yn un meddygol, felly nid yw’r gweithiwr iechyd proffesiynol yn bwriadu gwneud diagnosis o’ch symptomau nac argymell triniaeth.
Yn hytrach, bydd yn canolbwyntio ar sut mae eich cyflwr iechyd yn effeithio neu anabledd yn effeithoo ar eich bywyd o ddydd i ddydd. Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gofyn i chi sut rydych chi’n rheoli eich gweithgareddau dyddiol ac yn cofnodi eich atebion ar liniadur. Dyma’ch cyfle i egluro sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi.
Bydd yr asesiad yn cymryd cymaint o amser ag sy’n angenrheidiol i’r gweithiwr iechyd proffesiynol i gasglu’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt – tua awr yw hyn fel arfer.
I ymuno â'ch asesiad, mae angen i chi fynd i
www.signvideo.co.uk cyn eich apwyntiad
lawrlwytho ap symudol SignVideo
chwilio am CAPITA PIP ASSESSMENTS
neu
Cliciwch ar y ddolen hon https://capitapipassessments.signvideo.net neu ei deipio i'ch porwr rhyngrwyd
Ar amser eich apwyntiad, cysylltwch â SignVideo a dywedwch wrthynt eich bod yn ffonio Capita ar gyfer eich asesiad PIP.
Yn cael problemau?
I ddatrys unrhyw broblemau a allai fod gennych, edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.
I dderbyn cymorth a chefnogaeth, cysylltwch â'n Gwasanaethau Cwsmeriaid:
Ffoniwch SignVideo yn BSL: www.customer.signvideo.me
Fel arall, e-bostiwch y tîm cymorth technegol yn uniongyrchol:
Bydd yr asesydd ymarferol yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd yr adroddiad yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd gennych yn ogystal ag unrhyw beth a drafodwyd yn ystod eich asesiad.
Bydd yn anfon yr adroddiad at yr Adran Gwaith a Phensiynau fel y gallant wneud penderfyniad ar eich cais.
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar eich cais a'r holl wybodaeth ategol. Mae hyn yn cynnwys yr adroddiad asesu, eich ffurflen 'Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi' ac unrhyw dystiolaeth arall rydych wedi'i darparu.
Unwaith y byddant wedi gwneud eu penderfyniad, byddant yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych a allwch gael PIP. Bydd y llythyr hwn hefyd yn dweud wrthych beth i'w wneud nesaf os nad ydych yn cytuno â'r penderfyniad.
Pan fyddwch yn cael eich llythyr penderfyniad, os hoffech gael copi o'r adroddiad asesu, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais neu'r penderfyniad, ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau (Llun-Gwener 9am-5pm) ar 0800 121 4433 (ffôn testun: 0800 121 4493).
Os oes gennych anawsterau clyw neu leferydd, gallwch hefyd gysylltu â DWP trwy Relay UK neu eu Gwasanaeth Cyfnewid Fideo.