Mae'r Llywodraeth yn darparu amrywiaeth o fudd-daliadau i bobl sydd allan o waith neu sy'n methu â gweithio oherwydd cyflwr iechyd hirdymor. 

 

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) angen gwybodaeth iechyd iechyd pobl sy'n hawlio budd-daliadau. 

Mae Capita yn trefnu a chynnal asesiadau ar ran DWP. Pwrpas yr asesiad yw deall sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich bywyd bob dydd. Ar ôl yr asesiad, mae DWP yn penderfynu a fydd unigolyn yn derbyn unrhyw fudd-daliadau. 

Mae gan bob un o'n gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o leiaf ddwy flynedd o brofiad ôl-gymhwyso, maent wedi'u cofrestru gyda'u corff meddygol priodol ac maent wedi’u cymeradwyo gan DWP.

Eich asesiad

Rydym bob amser yn anelu at gynnal asesiad proffesiynol, gan ei gwneud yn glir beth y gallwch ei ddisgwyl gennym a beth sydd angen i chi ei wneud yn gyfnewid. Byddwn yn gwneud ein gorau i wneud ein gwasanaeth yn hawdd i'w ddefnyddio, byddwn yn gwrando arnoch chi ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn teimlo'n gyfforddus.


Pethau allweddol i'w cofio:

  • Nid yw'r gweithiwr iechyd proffesiynol Capita sy'n eich asesu yn penderfynu a fyddwch yn cael ESA. Gwneir hyn gan Adran Gwaith a Phensiynau gan ddefnyddio eich adroddiad asesu ac unrhyw dystiolaeth arall a ddarparwyd gennych.
  • Gwyddom y gall hyn fod yn broses straenus i rai ac rydym yn eich annog i ddod â rhywun gyda chi i'r asesiad.
  • Mae asesiadau fel arfer yn cymryd tua awr. Os oes angen seibiant arnoch ar unrhyw adeg, rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol.
  • Os yw eich apwyntiad yn wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, gallwch ofyn i'ch asesiad gael ei recordio.
  • Os nad ydych yn hapus â phenderfyniad Adran Gwaith a Phensiynau, gallwch ofyn iddynt ailedrych ar eich achos. Ewch i GOV.UK (www.gov.uk) i gael rhagor o wybodaeth am Ailystyriaethau Gorfodol.
Health assessment advisory service provided on behalf of Adran Gwaith a Phensiynau