Asesiadau meddygol Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB)
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) os ydych yn sâl neu'n anabl oherwydd damwain neu ddigwyddiad a ddigwyddodd mewn cysylltiad â'ch gwaith, neu os oes gennych glefyd sy'n gysylltiedig â'ch cyflogaeth. Mae'r swm a dderbynnir yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.
Am fwy o wybodaeth am yr hyn y byddwch yn ei gael a pha salwch sy'n cael eu cynnwys, ewch i Wefan y Llywodraeth.
Efallai y gofynnir i chi gael asesiad i asesu lefel yr anabledd sydd wedi codi oherwydd eich damwain neu glefyd. Bydd hwn yn cael ei gynnal gan un o’n gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Beth i'w ddisgwyl – dewisiwch un o’r opsiynau isod er mwyn neidio i’r adran berthnasol
Bydd angen i chi lenwi a phostio ffurflen hawlio. Daw'r ffurflen gyda nodiadau a fydd yn eich helpu i'w llenwi ac yn dweud wrthych ble i'w hanfon. Bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen wahanol yn dibynnu a ydych yn hawlio am:
Ewch i wefan y Llywodraeth i lawrlwytho’r ffurflen briodol:
Ar ôl i chi anfon eich ffurflen, bydd eich cais yn cael ei asesu gan ddefnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd, neu mewn asesiad meddygol.
Bydd Capita yn cysylltu â chi os oes angen asesiad meddygol arnoch, ac yn anfon gwybodaeth atoch am yr hyn i'w ddisgwyl yn yr apwyntiad.
Ni fydd angen i chi fynychu asesiad os ydych yn derfynol wael neu os oes gennych unrhyw un o'r clefydau canlynol:
- mesothelioma tryledol
- angiosarcoma yr afu oherwydd amlygiad i monomer finyl clorid
- carcinoma cychwynnol y broncws neu'r ysgyfaint trwy amlygiad i arsenig
- carcinoma cychwynnol y broncws neu'r ysgyfaint trwy amlygiad i Nicel / cyfansoddion Nicel
- carcinoma cychwynnol yr ysgyfaint lle ceir tystiolaeth ategol o asbestosis
- carcinoma cychwynnol yr ysgyfaint, drwy ddod i gysylltiad ag asbestos
- carcinoma cychwynnol yr ysgyfaint, wedi'i gysylltu â thun a chemegau penodedig eraill neu weithio gyda phoptai golosg
- carcinoma cychwynnol yr ysgyfaint lle mae Silicosis yn cyd-fynd
Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol
Mae ein holl aseswyr ar gyfer IIDB yn feddygon cymwysedig llawn a ffisiotherapyddion arbenigol. Mae angen iddynt gadw eu cofrestriad gyda'u corff proffesiynol tra byddant gyda ni.
Efallai y bydd angen i'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol gynnal archwiliad corfforol. Os felly, bydd angen eich caniatâd llafar cyn cynnal unrhyw archwiliad. Fe'ch anogir yn unig i wneud cymaint a sy’n bosibl o’r arholiad rydych yn teimlo’n gyfforddus ag o heb unrhyw gymorth. Mae'r arholiad wedi'i gynllunio i asesu eich swyddogaeth ac nid yw'r un fath ag archwiliad mewn lleoliad diagnostig neu lleoliad driniaeth. Ni fydd angen i chi dynnu eitemau personol o ddillad.
Os gofynnir i chi fynychu asesiad fideo
Beth sydd ei angen arnoch:
1.
Cyfrifiadur bwrdd gwaith, gliniadur, llechen, neu ffôn symudol sydd â chamera sy'n wynebu'r blaen, seinyddion, a meicroffon
2.
Cysylltiad rhyngrwyd sefydlog, da. Os gallwch wylio fideo ar-lein heb unrhyw broblemau, dylai eich cysylltiad rhyngrwyd fod yn addas ar gyfer asesiad fideo
3.
Ardal breifat, wedi'i goleuo'n dda lle na fydd tarfu arnoch
Un o'r porwyr hyn:
1.
Safari (cyfrifiadur Apple, iPad neu iPhone)
2.
Google Chrome (cyfrifiadur Windows neu dabled/ffôn clyfar Android)
3.
Microsoft Edge (cyfrifiadur Windows)
Mwy o wybodaeth am yr hyn y bydd ei angen arnoch ar gyfer eich asesiad fideo.
Os ydych chi'n defnyddio ffôn symudol Samsung ar gyfer eich asesiad fideo, efallai y bydd gennych broblem gyda'ch porwr. Os gwelwch y sgrin gwall isod, copïwch a gludwch y ddolen i'r ystafell aros ar Google Chrome. Os nad oes gennych Google Chrome eisoes, gallwch ei lawrlwytho. Gallech hefyd geisio defnyddio dyfais wahanol, os oes gennych un.
Os nad oes gennych un neu fwy o'r uchod, neu os yw eich cyflwr iechyd neu anabledd yn golygu na allwch gymryd rhan mewn asesiad fideo, cysylltwch â ni ar unwaith. Mae hyn er mwyn i ni allu trafod y ffordd orau o gynnal eich asesiad.
Gwiriwch fod eich dyfais wedi'i gosod yn gywir
Mae'n ddefnyddiol gwirio bod eich dyfais wedi'i gosod yn gywir cyn eich asesiad fideo. Profwch eich dyfais.
Os yw'ch dyfais wedi'i gosod yn gywir, fe welwch y sgrin hon yn dweud 'You are ready to make calls'.
Os byddwn yn sylwi nad yw rhywbeth yn iawn, efallai y gwelwch y sgrin hon.
Mae hyn fel arfer yn hawdd i'w ddatrys. Mwy o wybodaeth ar sut i gael eich dyfais yn barod ar gyfer eich asesiad fideo
Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn eich holi am unrhyw ddamweiniau neu salwch perthnasol, gan gynnwys unrhyw driniaeth oherwydd hyn a'r cyfyngiadau sydd wedi codi.
Gallwch ddod â gwybodaeth ychwanegol neu dystiolaeth feddygol i'r asesiad i gynorthwyo'r asesydd gyda'i adroddiad. Gall cydymaith hefyd fod yn bresennol i roi cefnogaeth a gall ddarparu gwybodaeth.
Unwaith y bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol wedi casglu’r holl wybodaeth berthnasol, bydd eich archwiliad yn dod i ben. Bydd y DWP yn defnyddio’r adroddiad asesiad ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ychwanegol arall sydd ar gael er mwyn penderfynu ar eich cais.
Byddwch wedyn yn derbyn llythyr gan y DWP gyda’u penderfyniad ar y cais, ynghyd a’r cyfanswm o unrhyw fudd-dal a’r cyfnod y bydd yn cael ei dalu i chi.
*[IIDB]: Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
*[DWP]: Adran Gwaith a Phensiynau
