Efallai y bydd gennych gwestiynau cyffredinol am PIP. Dyma ddetholiad o gwestiynau cyffredin ac atebion i'ch helpu chi.

 Cliciwch ar gwestiwn i weld yr ateb:

Gwybodaeth Gyffredinol

    Cysylltwch â'r Adran Gwaith a Phensiynau. Gallwch weld mwy yma.

    Mae'n ddefnyddiol cynnwys y wybodaeth ganlynol:

    • Rhestrau presgripsiwn rheolaidd
    • Dyddiadur neu lythyr gofalwr
    • Adroddiadau neu gynlluniau triniaeth diweddar gan:
    • Meddygon teulu neu ymgynghorwyr
    • Nyrsys
    • Therapyddion galwedigaethol
    • Ffisiotherapyddion
    • Gweithwyr cymdeithasol
    • Timau cymorth anabledd dysgu
    • Aelodau o'r teulu sy'n darparu cefnogaeth neu ofal

    Sylwer: Nid oes gennym unrhyw gofnodion meddygol felly mae'n bwysig eich bod yn anfon unrhyw dystiolaeth feddygol sydd gennych gan gynnwys eich triniaeth a'ch meddyginiaeth bresennol. Efallai y bydd yr aseswr anabledd yn gofyn am y wybodaeth hon yn eich asesiad.

    Mae'n bwysig ein bod yn deall yn iawn sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch o ddydd i ddydd. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl gael asesiad.

    Weithiau gallwn gwblhau eich asesiad gan ddefnyddio'r wybodaeth yn eich ffurflen 'Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi' ac unrhyw wybodaeth ategol a anfonwyd at yr Adran Gwaith a Phensiynau. Os gallwn wneud hyn, ni fydd angen i ni eich gwahodd am asesiad.

    Mae gennym dîm arbenigol sy'n prosesu hawliadau salwch terfynol ac ni fydd angen i chi gael asesiad. Bydd eich cais hefyd yn cael ei drin yn gyflym, fel arfer o fewn 2 ddiwrnod. Os oes gennych DS1500, cyflwynwch hwn gyda'ch ffurflen gais.

    Os byddai'n well gennych gael eich asesu mewn ffordd wahanol, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn drafod hyn gyda chi.

    Mae asesiadau'n cymryd tua awr fel arfer, er y gall gymryd ychydig mwy o amser weithiau felly caniatewch amser am hynny.

    Rydym yn eich annog i ddod â chydymaith i'ch asesiad. Gallai hyn fod yn ffrind, aelod o'r teulu, gofalwr neu weithiwr cymorth.

    Os oes angen cyfieithydd iaith neu ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain arnoch, cysylltwch â ni ar unwaith fel y gallwn drefnu hyn i chi.

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am eich apwyntiad neu'r asesiad, cysylltwch â ni. Mae yna hefyd lawer o sefydliadau a all eich helpu a'ch cefnogi ar hyd y ffordd, fel Cyngor ar Bopeth neu elusennau sy'n delio â chyflyrau penodol.

    Ni fyddwn byth yn eich ffonio’n annisgwyl ac yn gofyn am eich manylion banc. Os gofynnir i chi ddarparu eich manylion banc dros y ffôn a bod gennych unrhyw bryderon, diffoddwch yr alwad a chysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.

    Bydd eich adroddiad asesu yn cael ei anfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosibl ar ôl eich asesiad a gallwch ofyn am gopi ganddyn nhw.

    Bydd rheolwr achos yn yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud penderfyniad ar eich cais. Bydd hyn yn seiliedig ar yr adroddiad asesu, eich ffurflen 'Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi', ac unrhyw wybodaeth ategol rydych wedi'i darparu.

    Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon llythyr atoch unwaith y byddant wedi gwneud penderfyniad ar eich cais.

    Gallwch ofyn i'ch achos gael ei ailystyried. Bydd manylion am sut i wneud hyn yn eich llythyr penderfyniad gan y DWP.

    Rydym yn gyfrifol am drefnu a chynnal asesiadau wyneb yn wyneb, ffôn a fideo. Cysylltwch â ni os ydych yn anhapus gydag unrhyw ran o'n gwasanaeth. Mae hyn yn ein helpu i ddeall beth rydym yn ei wneud yn dda a lle mae angen i ni wneud pethau'n well.

    Bydd, bydd yr asesydd ymarferol wedi gweld eich ffurflen 'Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi' ac unrhyw wybodaeth ategol a anfonwyd gennych fel rhan o'ch cais.

    Mae ein haseswyr ymarferol yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd ac maent wedi'u hyfforddi'n arbennig wrth gynnal asesiadau ymarferol. Maent yno i asesu sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi ac mae ganddynt wybodaeth am ystod eang o gyflyrau iechyd ac anableddau.

    Bydd eich asesiad yn cael ei gynnal gan un o'n haseswyr ymarferol. Mae ein holl aseswyr ymarferol yn nyrsys, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion neu barafeddygon cwbl gymwys a chofrestredig.

    Bydd, bydd yr asesydd ymarferol yn gofyn cwestiynau i chi i ddeall a yw'ch cyflwr yn newid a sut mae hyn yn effeithio arnoch chi.

    Asesiad wyneb yn wyneb

    Efallai y bydd gennych gwestiynau am y broses asesu wyneb yn wyneb. Dyma ddetholiad o gwestiynau cyffredin ac atebion i'ch helpu chi. Cliciwch ar gwestiwn i weld yr ateb.

      Ar hyn o bryd, rydym ond yn cynnal asesiadau wyneb yn wyneb yn ein canolfannau asesu. 

      Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch teithio i'r ganolfan asesu, cysylltwch â ni ar unwaith. Mae hyn er mwyn i ni allu trafod pa gefnogaeth sydd ar gael.

      Er mwyn lleihau'r amser y bydd yn rhaid i chi aros, rydym yn eich annog i beidio â chyrraedd mwy na 10 munud cyn i'ch apwyntiad ddechrau.

      Mae ein holl ganolfannau asesu yn hygyrch. Os nad yw'r ystafell asesu ar y llawr gwaelod, bydd lifft ar gael.

      Bydd, bydd toiledau anabl ar gael, ond ni allwn eich helpu i ddefnyddio'r rhain.

      Rydym yn eich annog i ddod â rhywun gyda chi i'ch asesiad. Gallai hyn fod yn ffrind, aelod o'r teulu, gofalwr neu weithiwr cymorth.

      Ni ddylai eich cydymaith siarad ar eich rhan, ond gallant eich helpu i ateb unrhyw gwestiynau neu esbonio'r anawsterau rydych chi'n eu hwynebu yn gliriach. Os bydd eich cydymaith yn cyfieithu neu'n dehongli ar eich rhan, rhaid iddo/iddi fod dros 18 oed.

      Peidiwch â dod â phlant gyda chi. Os na allwch wneud trefniadau gofal plant, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn drafod y ffordd orau o gynnal eich asesiad.

      Na, ni all penodai fynychu asesiad wyneb yn wyneb heb yr hawliwr.

      Cliciwch yma i gael gwybod pa wybodaeth sydd angen i chi ddod gyda chi.

      Byddwn yn ad-dalu eich costau teithio chi a'ch cydymaith os byddwch yn teithio i'r apwyntiad ar drafnidiaeth gyhoeddus, neu'n talu am eich milltiroedd a'ch parcio os ydych yn gyrru yno. Llenwch y ffurflen hawlio a gawsoch gyda'ch llythyr apwyntiad a'i dychwelyd atom gyda'r holl docynnau a derbynebau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus neu barcio. Defnyddiwch yr amlen a ddarperir yn eich llythyr apwyntiad – nid oes angen stamp arni.

      Os oes angen i chi deithio i'ch asesiad mewn tacsi preifat, mae'n bwysig i'r cais hwn gael ei wneud ymlaen llaw. Bydd pob cais yn cael ei ystyried fesul achos.

      Os oes gennych dystiolaeth ychwanegol nad ydych eisoes wedi'i chyflwyno, dewch â’r dystiolaeth gyda chi a dywedwch wrth yr asesydd ymarferol. Byddant yn gofyn i chi ei anfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau ar ôl eich asesiad.

      Os hoffech i sain eich asesiad gael recordio, rhowch wybod i’r asesydd ymarferol ar ddechrau eich asesiad.

      Os ydych wedi gofyn i ni recordio eich asesiad, ar ôl eich apwyntiad byddwch yn derbyn dolen i'ch recordiad drwy neges destun neu e-bost. Byddwch yn derbyn neges destun ar wahân gyda chyfrinair un-tro. Bydd y cyfrinair yn dod i ben ar ôl 24 awr a dim ond unwaith y gellir ei ddefnyddio i gyrchu a lawrlwytho eich recordiad. Mae hyn er mwyn eich diogelu chi a'r wybodaeth a ddarparwyd gennych yn eich apwyntiad.

      Os hoffech gael copi CD o'r recordiad, rhowch wybod i'r asesydd ymarferol. Byddwn hefyd yn cadw copi o'r recordiad.

      Ar ôl eich asesiad, os oes gennych unrhyw anawsterau wrth gael mynediad i'ch recordiad, neu os oes angen copi CD, cysylltwch â ni.

      I dynnu caniatâd yn ôl ar ôl eich asesiad, cysylltwch â ni.

      Os hoffech chi gael dolen a chyfrinair newydd i gael mynediad i'ch recordiad sain, cysylltwch â ni. Gallwch hefyd ofyn am gopi CD o'r recordiad.

      Ni fydd DWP yn defnyddio'r recordiad i wneud penderfyniad ar eich cais am fudd-dal. Fodd bynnag, gellir defnyddio'r recordiad i gynorthwyo gyda datrys cwynion a/neu unrhyw achos apêl.

      Bydd Capita yn storio copi o'r recordiad yn ddiogel ac yn ei gadw am gyfnod o 24 mis. Ar ôl hynny, bydd yn cael ei ddinistrio.

      Asesiadau ffôn

      Efallai y bydd gennych gwestiynau am y broses asesu dros y ffôn. Dyma ddetholiad o gwestiynau cyffredin ac atebion i'ch helpu chi. Cliciwch ar gwestiwn i weld yr ateb.

        Os ydych wedi darparu rhif ffôn symudol, byddwn yn eich ffonio ar hwnnw. Os nad ydych wedi darparu rhif ffôn symudol, byddwn yn eich ffonio ar y rhif ‘llinell dir’ (land-line) rydych wedi'i ddarparu.

        Bydd y rhif y byddwn yn eich ffonio arno wedi’i gynnwys yn eich llythyr apwyntiad.
        Daw'r alwad o rif 0808 neu rif anhysbys.

        Bydd ein haseswr ymarferol yn ceisio eich ffonio hyd at dair gwaith dros gyfnod o 20 munud. Os na fyddwch yn ateb, byddwn yn dychwelyd eich cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau.

        Os nad yw'r signal ffôn yn dda iawn, byddwn yn gofyn i chi am rif cyswllt arall. Os nad oes dewis arall ar gael, bydd angen i'r asesydd aildrefnu'r apwyntiad ac efallai y byddwch yn cael math gwahanol o asesiad.

        Gallwch, rydym yn eich annog i gael rhywun gyda chi yn ystod yr asesiad. Gallai hyn fod yn ffrind, aelod o'r teulu, gofalwr neu weithiwr cymorth. Ni ddylent siarad ar eich rhan, ond gallant eich helpu i ateb unrhyw gwestiynau neu esbonio'r anawsterau rydych chi'n eu hwynebu yn fwy eglur. Os na all eich cydymaith fod gyda chi'n bersonol, gallwn ei ychwanegu at yr alwad ffôn.

        Os bydd eich cydymaith yn cyfieithu neu'n dehongli ar eich rhan, rhaid iddo fod dros 18 oed.

        Gofynnir cwestiynau diogelwch i chi dros y ffôn cyn i'r asesiad ddechrau.

        Os ydych chi'n ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain, bydd eich asesiad ffôn yn cael ei gynnal gan ddefnyddio ein gwasanaeth cyfnewid fideo. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, ac mae'r dehonglwyr yn gwbl gymwys ac wedi'u cofrestru.

        Am fwy o wybodaeth am yr hyn y bydd ei angen arnoch a sut i ymuno â'ch asesiad, cliciwch yma.

        Os oes gennych dystiolaeth ychwanegol nad ydych eisoes wedi'i chyflwyno, trafodwch hyn gyda'r asesydd ymarferol. Byddant yn gofyn i chi ei hanfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau ar ôl eich asesiad.

        Os hoffech i sain eich asesiad gael recordio, rhowch wybod i’r asesydd ymarferol ar ddechrau eich asesiad.

        Os ydych wedi gofyn i ni recordio eich asesiad, ar ôl eich apwyntiad byddwch yn derbyn dolen i'ch recordiad drwy neges destun neu e-bost. Byddwch yn derbyn neges destun ar wahân gyda chyfrinair un-tro. Bydd y cyfrinair yn dod i ben ar ôl 24 awr a dim ond unwaith y gellir ei ddefnyddio i gyrchu a lawrlwytho eich recordiad. Mae hyn er mwyn eich diogelu chi a'r wybodaeth a ddarparwyd gennych yn eich apwyntiad.

        Os hoffech gael copi CD o'r recordiad, rhowch wybod i'r asesydd ymarferol. Byddwn hefyd yn cadw copi o'r recordiad.

        Ar ôl eich asesiad, os oes gennych unrhyw anawsterau wrth gael mynediad i'ch recordiad, neu os oes angen copi CD, cysylltwch â ni.

        I dynnu caniatâd yn ôl ar ôl eich asesiad, cysylltwch â ni.

        Os hoffech chi gael dolen a chyfrinair newydd i gael mynediad i'ch recordiad sain, cysylltwch â ni. Gallwch hefyd ofyn am gopi CD o'r recordiad.

        Ni fydd DWP yn defnyddio'r recordiad i wneud penderfyniad ar eich cais am fudd-dal. Fodd bynnag, gellir defnyddio'r recordiad i gynorthwyo gyda datrys cwynion a/neu unrhyw achos apêl.

        Bydd Capita yn storio copi o'r recordiad yn ddiogel ac yn ei gadw am gyfnod o 24 mis. Ar ôl hynny, bydd yn cael ei ddinistrio.

        Asesiadau fideo

        Efallai y bydd gennych gwestiynau am y broses asesiad fideo. Dyma ddetholiad o gwestiynau cyffredin ac atebion i'ch helpu chi. Cliciwch ar gwestiwn i weld yr ateb.

          Ceisiwch ailymuno â'r asesiad. Os na allwch wneud hynny, neu os yw'r cysylltiad dal yn wael, bydd yr asesydd ymarferol yn eich ffonio a bydd yr asesiad yn cael ei gynnal dros y ffôn yn lle hynny. Os byddwch yn colli cysylltiad ac nid yw'r asesydd ymarferol yn ,cysylltwch â ni.

          Cliciwch yma i brofi eich dyfais cyn eich asesiad. Os ydych chi'n cael trafferth ymuno ar ddiwrnod eich asesiad, cysylltwch â ni ar unwaith.

          Rhowch wybod i'r asesydd ymarferol os nad ydych yn teimlo eich bod yn gallu cyflawni unrhyw un o'r symudiadau. Ni ddylech wneud unrhyw beth a fydd yn achosi poen neu anghysur i chi.

          Ydych. Os oes gennych benodai, rhaid iddynt ymuno â'r asesiad. Os na allwch fod gyda nhw'n personol, gallwn eich ychwanegu at yr asesiad fideo. Rhaid i chi a'ch penodai fod yn bresennol i'r asesiad fideo fynd yn ei flaen.

          Gallwch, rydym yn eich annog i gael rhywun gyda chi yn ystod yr asesiad. Os na all eich cydymaith fod gyda chi'n personol, gallwn eu hychwanegu at yr asesiad fideo.

          Os hoffech i'ch cydymaith gael eu hychwanegu at yr asesiad, rhowch wybod i'r asesydd ymarferol ar ddechrau eich asesiad. Byddant yn gofyn i chi am rif ffôn neu gyfeiriad e-bost eich cydymaith a byddant yn anfon dolen iddynt ymuno â'r asesiad. Mae angen i'ch cydymaith fod yn barod ar adeg eich apwyntiad.

          Byddai’n ddefnyddiol os gall eich cydymaith brofi ei ddyfais/ei dyfais cyn yr asesiad trwy glicio yma.

          Bydd, bydd yr asesydd ymarferol wedi gweld eich ffurflen 'Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi' ac unrhyw wybodaeth ategol a anfonwyd gennych fel rhan o'ch cais.

          Os oes gennych dystiolaeth ychwanegol nad ydych eisoes wedi'i chyflwyno, trafodwch hyn gyda'r asesydd ymarferol. Byddant yn gofyn i chi ei anfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau ar ôl eich asesiad.

          Ni chaniateir i chi recordio eich asesiad fideo na'r asesydd ymarferol. Ni allwn ni recordio'r asesiad fideo ’chwaith.

          Health assessment advisory service provided on behalf of Adran Gwaith a Phensiynau