Mae'r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn fudd-dal heb brawf modd i bobl rhwng 16 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth sydd â chyflwr neu anabledd corfforol neu feddyliol hirdymor, sy'n golygu eu bod yn cael anawsterau gyda rhai tasgau bob dydd neu wrth fynd o gwmpas.

Mae PIP yn helpu gyda rhai o'r costau ychwanegol y gallai pobl anabl eu hwynebu o ddydd i ddydd, i'w helpu i fyw bywydau llawn, gweithgar ac annibynnol. Mae dwy ran i PIP:

  • rhan bywyd bob dydd os oes angen help arnoch gyda thasgau bob dydd
  • rhan symudedd os oes angen help arnoch i symud o gwmpas

Bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl gael asesiad. Gellir gwneud hyn wyneb yn wyneb yn un o'n canolfannau asesu, dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Bydd gweddill yr asesiadau'n cael eu cwblhau gan ddefnyddio'r wybodaeth yn eich cais ac unrhyw wybodaeth ategol rydych wedi'i hanfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae llawer o sefydliadau cyngor annibynnol am ddim a all eich helpu a'ch cefnogi gyda'ch hawliad PIP. Dod o hyd i sefydliad yn eich ardal chi.

Nid yw asesiadau PIP yn feddygol, ni fydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwneud diagnosis o'ch cyflwr nac yn argymell triniaeth. Mae'n asesiad ymarferol i ddeall sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi.

Dechrau arni

Os penderfynwch bod PIP yn iawn i chi, y cam cyntaf yw cysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau. Am fwy o wybodaeth, cliciwch y botwm 'Cychwyn eich cais' isod, neu ffoniwch linell gwneud cais newydd am PIP ar 0800 917 22222.

Anfonir ffurflen atoch yn y post o'r enw 'Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi', ynghyd â llyfryn gwybodaeth i'ch helpu i'w chwblhau. Bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen ac unrhyw wybodaeth ategol o fewn mis. Gall gwybodaeth ategol helpu ein gweithwyr iechyd proffesiynol i ddeall sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi.

Gall gwybodaeth ategol gynnwys:

Eich asesiad

Rydym bob amser yn anelu at gynnal asesiad proffesiynol, gan ei wneud yn glir beth y gallwch ei ddisgwyl gennym ni a'r hyn y mae angen i chi ei wneud. Byddwn yn gwneud ein gorau i wneud ein gwasanaeth yn hawdd ei ddefnyddio, byddwn yn gwrando arnoch ac yn sicrhau eich bod yn teimlo'n gyfforddus.

Pethau allweddol i'w cofio:

  1. Nid gweithiwr iechyd proffesiynol Capita sy'n eich asesu sy’n penderfynu a fyddwch chi'n cael PIP. Gwneir hyn gan DWP gan ddefnyddio'ch adroddiad asesu ac unrhyw dystiolaeth arall yr ydych wedi'i darparu.
  1. Mae PIP yn fudd-dal heb brawf modd, sy'n golygu y gallwch wneud hawliad p'un a ydych mewn gwaith neu allan o waith.
  1. Rydym yn gwybod y gall hyn fod yn broses all beri straen i rai ac rydym yn eich annog i ddod â rhywun gyda chi i'r asesiad.
  1. Mae asesiadau'n cymryd tua awr fel arfer. Os oes angen seibiant arnoch ar unrhyw adeg, rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol.
  1. Os yw eich apwyntiad wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, gallwch ofyn i'ch asesiad gael ei recordio.
  1. Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad y DWP, gallwch ofyn iddynt ailedrych ar eich achos. Mwy o wybodaeth.
Health assessment advisory service provided on behalf of Adran Gwaith a Phensiynau