Mae ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cynnal asesiadau ar ran Y Weinyddiaeth Amddiffyn, sy'n cynghori ar anabledd sy'n deillio o anafiadau neu salwch a gafwyd wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Gall Veterans UK ofyn am adolygiadau o gyflyrau a dderbyniwyd yn flaenorol a hefyd i gyflyrau newydd gael eu hasesu.

Gweler adran Veterans UK ar wefan y Llywodraeth i gael gwybodaeth fanwl am bensiynau ac iawndaliadau mewn perthynas â gwasanaeth yn y Lluoedd Arfog.

Dewisiwch yr opsiwn berthnasol isod i fynd yn syth i’r adran hwnnw:

Cyn eich asesiad

Efallai y gallwch gael taliad os oes gennych anaf, salwch neu anhwylder meddygol a achoswyd neu a waethygwyd gan wasanaeth lluoedd arfog y DU.

Gellir gwneud ceisiadau am gyflyrau iechyd corfforol a meddyliol

Os ydych am wneud cais am gyflwr sy’n ymwneud ag amlygiad i asbestos, darllenwch y canllawiau ar GOV.UK yn gyntaf
Rhaid gwneud ceisiadau am anaf neu salwch o fewn 7 mlynedd i’r cynharaf o’r dyddiadau canlynol:

  • dyddiad y digwyddiad a arweiniodd at yr anaf neu salwch
  • y dyddiad y gwaethygwyd anaf neu salwch nas achoswyd gan wasanaeth gan wasanaeth
  • yn achos salwch, dyddiad ceisio cyngor meddygol am y tro cyntaf ar gyfer y salwch hwnnw
  • dyddiad rhyddhau

Er bod terfynau amser, yn anad dim dylech gyflwyno cais am iawndal ar yr amser sydd orau i chi. Mae rhai amgylchiadau pan fydd hawliad yn cael ei dderbyn y tu allan i’r terfynau amser uchod megis cael eich atal rhag gwneud cais oherwydd afiechyd neu pan fydd eich salwch yn digwydd yn ddiweddarach. Cysylltwch â Veterans UK os hoffech ragor o gyngor ar hyn.

I hawlio ar-lein bydd angen

  • cyfeiriad e-bost
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • eich gwasanaeth lluoedd arfog
  • manylion y meddyg
  • Manylion banc
  • Neu gallwch hawlio drwy'r post

Gofynnwch am ffurflen bapur drwy ffonio Llinell Gymorth Veterans UK ar 0808 1914 218 Llun i Gwener 8am i 4pm neu e-bostiwch veterans-uk@mod.gov.uk. Bydd y llinell gymorth yn anfon ffurflen ac amlen ragdaledig atoch i'w dychwelyd.

Yn ystod eich asesiad

Bydd yr asesydd ymarferol yn trafod eich hanes meddygol a'ch gweithgareddau mewn diwrnod arferol. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chofnodi ond ni fydd yn gofnod gair-am-air.

Gallwch ddod â gwybodaeth ychwanegol neu wybodaeth feddygol gyda chi i gynorthwyo'r asesydd ymarferol gyda'i adroddiad. Gallwch ddod â chydymaith i roi help a chefnogaeth a all hefyd ddarparu gwybodaeth.

Bydd yr asesydd ymarferol yn trafod eich hanes perthnasol ac yn cynnal yr asesiad swyddogaethol priodol er mwyn crynhoi sut mae'r problemau'n effeithio arnoch chi.

Ar ôl eich asesiad

Mae'r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio gan aseswyr Veterans UK ei hun i benderfynu ar unrhyw bensiwn sy'n daladwy.

Beth os nad ydw i’n hapus gyda’r penderfyniad?

Os nad ydych yn cytuno â’r penderfyniad a wnaed gan Veterans UK, gallwch ofyn iddo gael ei ailystyried. Mae hyn yn golygu y bydd rhywun nad oedd yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol yn edrych ar eich cais eto.

Bydd angen i chi ofyn am ailystyriaeth yn ysgrifenedig o fewn 12 mis i ddyddiad eich hysbysiad o benderfyniad gwreiddiol. Gallwch gynnwys gwybodaeth na wnaethoch ei darparu ar adeg eich cais, sy’n ymwneud â’ch cyflwr neu’r digwyddiadau sy’n ymwneud â’r anaf neu salwch.

Byddwn yn eich hysbysu am ganlyniad yr ailystriaeth. Os ydych yn dal i deimlo bod ein penderfyniad yn anghywir, gallwch apelio i dribiwnlys annibynnol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Veterans UK.

Health assessment advisory service provided on behalf of Adran Gwaith a Phensiynau