Cyn eich asesiad

Os ydych chi'n gwneud cais am ESA mae'n bosibl y byddwch yn derbyn holiadur gallu i weithio, a elwir hefyd yn ffurflen ESA50. Llenwch y ffurflen mor llawn â phosibl, gan ateb yr holl gwestiynau perthnasol. 

Mae'n bwysig eich bod yn dychwelyd y ffurflen erbyn y dyddiad ar y llythyr a anfonir atoch. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen i benderfynu pa fath o asesiad y gallai fod ei angen arnoch.

Gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen ESA50 i'ch cyfrifiadur. Os ydych chi'n defnyddio'r ffurflen ar-lein, bydd rhaid ei llenwi, ei hargraffu, ei llofnodi a'i dychwelyd i'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Os oes angen help arnoch i lenwi'r ffurflen, cysylltwch â Capita.

Beth i’w ddod gyda chi i’r asesiad

  • unrhyw feddyginiaeth
  • unrhyw wybodaeth gan eich meddyg teulu neu arbenigwr sy'n esbonio sut mae'ch cyflwr yn effeithio arnoch chi

Dehonglwyr

Rhowch wybod i ni o leiaf ddau ddiwrnod cyn eich asesiad os oes angen dehonglydd iaith neu BSL arnoch ar gyfer eich asesiad

Trefniadau apwyntiad

Byddwn yn eich ffonio i drefnu dyddiad ac amser sy'n addas i chi ac yn gyrru llythyr I gadarnhau eich manylion ar gyfer yr apwyntiad. Bydd gan eich llythyr apwyntiad rif cyswllt a gwybodaeth am yr asesiad. Darllenwch y llythyr hwn cyn eich asesiad.

Os oes angen help arnoch cyn eich asesiad cysylltwch â Capita.

Mae'r llinell ymholiadau cwsmeriaid ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm, a dydd Sadwrn 9am tan 5pm.

Beth sy'n digwydd gyda'ch cefnogaeth cyn eich asesiad

Tra byddwch yn aros i'ch asesiad gael ei gwblhau, byddwch yn derbyn taliad y gyfradd asesu a ddynodir o dan ESA.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar wefan y Llywodraeth.

Tystiolaeth Bellach

Mae angen i chi anfon unrhyw dystiolaeth feddygol neu wybodaeth arall sydd gennych eisoes megis:

Pethau yr hoffai Capita eu gweld os oes gennych chi rai eisoes:

Pethau nad oes angen i Capita eu gweld yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am eich cyflyrau meddygol nad ydynt yn ymwneud â chi'n bersonol megis:

  • Eich rhestr presgripsiynau gyfredol
  • Eich datganiad o anghenion addysgol arbennig
  • Dyddiadur trawiad epilepsi
  • Eich tystysgrif nam ar y golwg
  • Pasbortau ysbyty. Dyma gofnod ysgrifenedig a gedwir gan bobl ag anableddau dysgu i roi gwybodaeth bwysig i staff ysbytai amdanynt a'u hiechyd pan fyddant yn cael eu derbyn i'r ysbyty.
  • Cynlluniau Iechyd Addysg.
  • Dyddiadur o'ch symptomau os yw eich anabledd, eich salwch neu’ch cyflwr iechyd yn amrywio o ddydd i ddydd.
  • Gwybodaeth arhosiad hir i'r ysbyty gan gynnwys dyddiad mynediad, hyd arhosiad ac enw a chyfeiriad yr ysbyty.
  • Canlyniadau profion meddygol gan gynnwys:
    • Sganiau
    • Awdioleg
    • Canlyniadau pelydr-x, ond nid y pelydrau x eu hunain.
  • Ffotograffau
  • Llythyrau am fudd-daliadau eraill
  • Taflenni ffeithiau am eich meddyginiaeth
  • Printiadau o’r rhyngrwyd
  • Datganiad o Ffitrwydd i Weithio, a elwir hefyd yn nodiadau ffitrwydd
  • Tystysgrifau meddygol
  • Datganiadau neu nodiadau salwch meddyg
  • Llythyrau apwyntiad

Efallai y gofynnir i chi am fanylion y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol neu'r gofalwyr sy'n gwybod fwyaf am eich cyflyrau iechyd, salwch ac anableddau – ehangwch y rhestr isod i weld pwy allai'r rhain fod:

Rhestr o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr

  • Ymgynghorydd neu Feddyg Arbenigol
  • Seiciatrydd
  • Nyrs Arbenigol, fel Nyrs Seiciatrig Gymunedol
  • Ffisiotherapydd
  • Therapydd Galwedigaethol
  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Gweithiwr cymorth neu gynorthwyydd personol
  • Gofalwr

Cofiwch – anfonwch gopïau o wybodaeth feddygol neu wybodaeth arall atom os oes gennych chi nhw eisoes yn unig. Peidiwch â gofyn na thalu am wybodaeth newydd nac anfon dogfennau gwreiddiol atom. Ysgrifennwch eich rhif Yswiriant Gwladol ar bob darn o wybodaeth a anfonwch atom.

Os nad ydych wedi derbyn ffurflen ESA50 eto, gallai fod yn haws i chi os byddwch yn dechrau casglu peth o'ch gwybodaeth feddygol ymlaen llaw. Mae'r ffurflen hon yn ein galluogi i benderfynu pa fath o asesiad efallai y bydd ei hangen arnoch.

Cyn gynted ag y byddwch wedi cwblhau'r ffurflen, mae angen i chi ei llofnodi a'i dyddio, a'i dychwelyd yn yr amlen a ddarparwyd gennym. Mae'n bwysig eich bod yn dychwelyd y ffurflen cyn y dyddiad y mae’n ddyledus.

Efallai na fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu parhau i dalu budd-daliadau i chi os na fyddwn yn derbyn y ffurflen hon mewn pryd.

Os na allwch ddychwelyd y ffurflen mewn pryd, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Mae yna hefyd flwch sy'n eich galluogi i esbonio pam roedd eich ffurflen yn hwyr. 

Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â Capita.

Yn ystod eich asesiad

Yn ystod eich asesiad

Y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol

Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cyflwyno ei hun ac yn esbonio'r asesiad i chi. Byddant yn cofnodi gwybodaeth ar gyfrifiadur. Efallai na fydd rhai cwestiynau'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch cyflwr meddygol, ond â gweithgareddau dyddiol. Bydd yr asesiad yn para rhwng 20 munud ac 1 awr yn dibynnu ar eich cyflwr iechyd neu anabledd.

Gall y cwestiynau asesu gynnwys: 

  • Pryd ddechreuodd eich salwch neu anabledd 
  • Sut mae'ch cyflwr yn newid o ddydd i ddydd 
  • Sut mae'n effeithio ar eich bywyd bob dydd 
  • Sut mae'n effeithio ar eich hwyliau a'r ffordd rydych chi'n ymddwyn 
  • Sut rydych chi'n ymdopi â phethau o ddydd i ddydd

Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cofnodi gwybodaeth am eich poen, blinder a'r feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd. 

Gan ddibynnu ar eich salwch neu anabledd, gall yr asesiad gynnwys arsylwadau o:

  • Symudiadau megis ymestyn, sefyll neu plygu

Ni fydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn i chi wneud unrhyw symudiadau sy'n achosi anghysur i chi. Os ydych chi'n poeni y gallai rhai symudiadau achosi poen i chi, dywedwch wrth y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Rydym yn darparu adroddiad asesiad i'r DWP sy'n ddiduedd ac yn darparu cyngor meddygol wedi’i gyfiawnhau ynghylch sut mae eich cyflwr meddygol yn effeithio arnoch ar hyn o bryd. Mae hyn yn dilyn deddfwriaeth y llywodraeth a'r prosesau y cytunwyd arnynt gan DWP.

Dod â rhywun gyda chi i’r asesiad

Mae croeso i chi ddod â pherthynas, gofalwr neu ffrind gyda chi. Er y bydd yr asesiad yn canolbwyntio arnoch chi, gall cydymaith gynnig cefnogaeth ddefnyddiol i chi.

Cymryd nodiadau 

Mae croeso i chi neu'ch cydymaith gymryd nodiadau at eich defnydd personol. Ni fydd eich nodiadau yn rhan o'r adroddiad meddygol a anfonwn at y DWP.

Ar ôl eich Asesiad

Ar ôl eich Asesiad

Ar ôl eich asesiad mae ein gweithwyr iechyd gofal proffesiynol yn cwblhau adroddiad gan ddefnyddio meini prawf a nodwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Mae hyn er mwyn rhoi barn feddygol ddiduedd, wedi’i chyfiawnhau i wneuthurwr penderfyniadau’r DWP ynghylch sut mae eich cyflwr meddygol yn effeithio arnoch chi.

Bydd yr adroddiad asesu yn disgrifio'ch cyflyrau meddygol a'r gweithgareddau rydych chi'n eu gwneud mewn diwrnod arferol. Bydd hefyd yn cynnwys sylwadau'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Mae'r adroddiad yn un darn o wybodaeth a ddefnyddir gan y DWP wrth benderfynu ar eich cais. 

Gallwch ofyn am gopi o'r adroddiad llawn gan swyddfa'r DWP sy'n ymdrin â'ch hawliad.

Penderfyniadau ar geisiadau

Bydd DWP yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais a pham y gwnaed y penderfyniad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ganlyniad eich cais, cysylltwch â DWP.

Nid yw Capita yn cymryd rhan yn y broses benderfynu.

Health assessment advisory service provided on behalf of Adran Gwaith a Phensiynau