Cyngor gam wrth gam yn arwain i fyny at, yn ystod ac ar ôl eich asesiad wyneb yn wyneb
Dewiswch un o’r opsiynau isod i fynd i’r adran berthnasol:
Cyn eich asesiad
Bydd y rhai sy'n gwneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) efallai yn derbyn holiadur gallu i weithio, a elwir hefyd yn ESA50. Mae'n bwysig eich bod yn llenwi'r ffurflen mor llawn â phosibl, gan ateb yr holl gwestiynau perthnasol.
Mae'n bwysig eich bod yn dychwelyd y ffurflen erbyn y dyddiad ar y llythyr a anfonir atoch. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen i benderfynu a oes angen i chi ddod i mewn ar gyfer asesiad ai peidio.
Gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen ESA50 i'ch cyfrifiadur. Os ydych chi'n defnyddio'r ffurflen ar-lein, llenwch hi, ei hargraffu, ei llofnodi ac yna ei hanfon i’r DWP.
Beth i ddod gyda chi i’r asesiad
- Prawf adnabod (ID)
- Unrhyw feddyginiaeth yr ydych yn ei chymryd
- Unrhyw wybodaeth gan eich meddyg teulu (GP) neu arbenigwr sy’n esbonio sut mae eich cyflwr yn effeithio arnoch chi
Os ydych chi’n hawlio treuliau, dewch â manylion eich cyfrif banc os oes gennych un.
Angen cymorth gyda llenwi’r ffurflen?
Gallwch nawr siarad â chynghorydd pwrpasol ar ein llinell gymorth trwy ffonio 0800 072 0222.
Dewiswch opsiwn 1 ar gyfer y gwasanaeth Saesneg, yna opsiwn 2 ar gyfer ein tîm cynghori.
Dehonglwyr
Rhowch wybod i ni o leiaf ddau ddiwrnod cyn eich asesiad os oes angen dehonglydd iaith neu BSL arnoch ar gyfer eich asesiad. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gallwn gael dehonglydd ar eich cyfer.
Trefniadau apwyntiad
Byddwn yn anfon llythyr gyda’ch dyddiad asesu. Bydd gan eich llythyr apwyntiad rif cyswllt a gwybodaeth am yr asesiad, gan gynnwys cyfarwyddiadau i'r Ganolfan Asesu. Darllenwch y llythyr hwn cyn eich asesiad.
Darganfyddwch ragor am eich Canolfan Asesu yma.
Os oes angen help arnoch cyn eich asesiad, ffoniwch ein tîm ymholiadau cwsmeriaid ar 0800 072 0222. Mae'r llinell ymholiadau cwsmeriaid ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm, a dydd Sadwrn 9am tan 5pm.
Beth sy’n digwydd gyda’ch cymorth cyn eich asesiad
Tra byddwch yn aros i’ch asesiad gael ei gwblhau, byddwch yn derbyn y cyfradd safonol o ESA a bydd angen i chi barhau i fynychu’r Ganolfan Waith fel y cytunwyd gyda’ch Anogwr Gwaith.
Sylwch bod ffactorau gwahanol yn cael eu hystyried a all effeithio ar eich hawl i fudd-dal. Am ragor o wybodaeth, ewch i gov.uk.
Os na allwch ddychwelyd y ffurflen mewn pryd, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Yn ychwanegol, mae blwch sy’n eich galluogi i esbonio pam roedd eich ffurflen yn hwyr. Os oes gennych unrhyw bryderon o gwbl am y ffurflen, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â Capita cyn gynted ag y gallwch neu gallwch ofyn i gynrychiolydd gysylltu â ni.
Efallai na fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu parhau i dalu budd-daliadau i chi os na fyddwn yn derbyn y ffurflen hon mewn pryd.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar gov.uk.
Tystiolaeth bellach
Mae angen i ni hefyd weld unrhyw dystiolaeth feddygol neu wybodaeth arall a allai fod gennych eisoes, megis:
Mae’r pethau yr hoffai Capita eu gweld, os oes gennych chi rai eisoes, yn cynnwys: | Mae'r pethau nad oes angen i Capita eu gweld yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am eich cyflyrau meddygol nad ydynt yn ymwneud â chi'n bersonol fel: |
---|---|
|
|
Efallai y gofynnir eich ffurflen ESA50 i chi am fanylion y gweithwyr proffesiynol neu'r gofalwyr sy'n gwybod fwyaf am eich cyflyrau iechyd, salwch ac anableddau. Ehangwch ar y rhestr isod i ganfod beth gallai’r rhain fod:
Rhestr o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr
- ymgynghorydd neu feddyg arbenigol
- seiciatrydd
- nyrs arbenigol, fel nyrs seiciatrig gymunedol
- ffisiotherapydd
- therapydd galwedigaethol
- gweithiwr cymdeithasol
- gweithiwr cymorth neu gynorthwyydd personol
- gofalwr
Cofiwch – anfonwch gopïau o wybodaeth feddygol neu wybodaeth arall atom os oes gennych chi nhw eisoes yn unig. Peidiwch â gofyn na thalu am wybodaeth newydd nac anfon dogfennau gwreiddiol atom. Ysgrifennwch eich rhif Yswiriant Gwladol ar bob darn o wybodaeth a anfonwch atom.
Os nad ydych wedi derbyn ffurflen ESA50 eto, gallai fod yn haws i chi os byddwch yn cychwyn casglu peth o'ch gwybodaeth feddygol ymlaen llaw. Mae'r ffurflen hon yn ein galluogi i benderfynu os byddwch chi angen asesiad wyneb yn wyneb.
Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cyflwyno eu hunain ac yn esbonio'r asesiad i chi. Byddant yn cofnodi gwybodaeth ar gyfrifiadur. Efallai na fydd rhai cwestiynau'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch cyflwr meddygol, ond â gweithgareddau dyddiol.
Gall y cwestiynau asesu gynnwys:
- Pryd ddechreuodd eich salwch neu anabledd
- Sut mae'ch cyflwr yn newid o ddydd i ddydd
- Sut mae'n effeithio ar eich bywyd bob dydd
- Sut mae'n effeithio ar eich hwyliau a'r ffordd rydych chi'n ymddwyn
- Sut rydych chi'n ymdopi â phethau o ddydd i ddydd
Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cofnodi gwybodaeth am eich poen, blinder a'r feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd.
Gan ddibynnu ar eich salwch neu anabledd, gall yr asesiad gynnwys:
- archwiliad corfforol
- pwysedd gwaed, golwg, clyw neu brofion eraill
- symudiadau fel ymestyn, sefyll a phlygu
Ni fydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn i chi wneud unrhyw symudiadau sy'n achosi poen i chi. Os ydych chi'n poeni y gallai rhai symudiadau achosi poen i chi, dywedwch wrth y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Rydym yn darparu adroddiad asesiad i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) sy'n ddiduedd ac yn darparu cyngor meddygol wedi’i gyfiawnhau ynghylch sut mae eich cyflwr meddygol yn effeithio arnoch ar hyn o bryd. Mae hyn yn dilyn deddfwriaeth y llywodraeth a'r prosesau y cytunwyd arnynt gan DWP.
Dod â rhywun gyda chi i’r asesiad
Mae croeso i chi ddod â pherthynas, gofalwr neu ffrind gyda chi. Er y bydd yr asesiad yn canolbwyntio arnoch chi, gall cydymaith gynnig cefnogaeth ddefnyddiol i chi. Fel arfer, hwn byddai’r person sy’n eich adnabod orau ac sy’n eich deall chi a’ch anghenion. Er enghraifft, gall hwn fod yn berthynas, gweithiwr cymorth neu ffrind, ond mae’n rhaid iddynt fod yn 16 oed neu throsodd.
Cymryd nodiadau
Mae croeso i chi neu'ch cydymaith gymryd nodiadau at eich defnydd personol. Ni fydd eich nodiadau yn rhan o'r adroddiad meddygol a anfonwn at y DWP.
Amser aros a hyd yr asesiad
Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael eich gweld cyn gynted â phosibl. Bydd y derbynnydd yn dweud wrthych os oes rhaid i chi aros.
Gall pobl eraill sy'n cyrraedd ar eich ôl chi fynd i'w hasesiad o’ch blaen chi. Mae hyn oherwydd ein bod yn gwneud sawl math o asesiadau, ac mae rhai yn cymryd mwy o amser nag eraill. Nid oes amser penodol ar gyfer asesiadau, ond fel arfer maent rhwng 20 munud ac 1 awr.
Ar ôl eich asesiad mae ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cwblhau adroddiad gan ddefnyddio meini prawf a nodwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Mae hyn er mwyn rhoi barn feddygol ddiduedd, wedi’i chyfiawnhau i wneuthurwr penderfyniadau’r DWP ynghylch sut mae eich cyflwr meddygol yn effeithio arnoch chi.
Bydd yr adroddiad asesu yn disgrifio'ch cyflyrau meddygol a'r gweithgareddau rydych chi'n eu gwneud mewn diwrnod arferol. Bydd hefyd yn cynnwys sylwadau'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, a chanlyniadau unrhyw archwiliad corfforol a wneir.
Mae'r adroddiad yn un darn o wybodaeth a ddefnyddir gan y DWP wrth benderfynu ar eich cais. Nid yw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n gwneud eich asesiad yn gwneud unrhyw benderfyniad am eich lwfans, eich budd-daliadau na’ch credydau ac ni fyddent yn gwybod canlyniad eich cais.
Gallwch ofyn am gopi o'r adroddiad llawn gan swyddfa'r DWP sy'n ymdrin â'ch cais.
Penderfyniadau ar geisiadau
Bydd y DWP yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais.
Mae’r DWP yn gwneud penderfyniadau ar geisiadau. Dylech gyfeirio unrhyw gwestiynau neu bryderon am ganlyniad eich cais i swyddfa’r DWP sy’n ymdrin â’ch cais. Byddant yn gwybod pa wybodaeth y maent wedi’i defnyddio i benderfynu ar eich hawl. Ni fydd Capita yn ymwybodol o hyn. Nid ydym yn cymryd rhan yn y broses benderfynu.
Mwy o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â swyddfa'r DWP sy’n ymdrin â’ch cais. Bydd rhif y swyddfa ar lythyrau rydych chi wedi'u derbyn am eich cais.
Hawlio treuliau
Mae Capita yn talu treuliau:
- Teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus
- Tuag at gostau tanwydd ar gyfer ceir preifat
- Cost parcio pan nad yw ar gael yn y ganolfan asesu
Byddwn hefyd yn talu costau cydymaith, perthynas, gofalwr neu blant ifanc a fyddai fel arall yn cael eu gadael heb oruchwyliaeth. Os ydych yn dymuno gwneud cais i gydymaith awdurdodedig deithio gyda chi, rhaid i chi gysylltu â'n llinell ymholiadau cyn eich asesiad ar 0800 072 0222 a gadewch i ni wybod.
Er mwyn cael eich talu am unrhyw dreuliau, bydd angen i chi lenwi a chyflwyno ffurflen gostau. Gallwch ofyn i'r derbynnydd yn y Ganolfan Asesu am help i lenwi'r ffurflen. Cadwch eich holl dderbynebau os gwelwch yn dda. Dylech dderbyn taliad am eich treuliau tua phythefnos ar ôl i chi anfon y ffurflen.
*[DWP]: Adran Gwaith a Phensiynau
*[ESA]: Lwfans Cyflogaeth a Chymorth