Cyngor gam wrth gam yn arwain i fyny at, yn ystod ac ar ôl eich asesiad ffôn gallu i weithio ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Dewiswch o'r opsiynau isod i fynd i'r adran berthnasol
Cyn Eich Asesiad
Os ydych chi’n gwneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) efallai y byddwch yn derbyn holiadur gallu i weithio, a elwir hefyd yn ESA50. Mae’n bwysig eich bod yn llenwi’r ffurflen mor llawn â phosibl, gan ateb yr holl gwestiynau perthnasol.
Sicrhewch eich bod yn dychwelyd y ffurflen erbyn y dyddiad ar y llythyr a anfonir atoch. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen i benderfynu pa fath o asesiad y gallai fod ei angen arnoch.
Gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen ESA50 AERRi'ch cyfrifiadur. Os ydych chi'n defnyddio'r ffurflen ar-lein, llenwch hi, ei hargraffu, ei llofnodi ac yna ei hanfon i DWP.
Angen cymorth gyda llenwi’r ffurflen?
Gallwch nawr siarad â chynghorydd pwrpasol ar ein llinell gymorth trwy ffonio 0800 072 0222.
Am y gwasanaeth Cymraeg, ffoniwch ein llinell ymholiadau cwsmeriaid a pwyswch ar opsiwn 2.
Dehonglwyr
Rhowch wybod i ni o leiaf ddau ddiwrnod cyn eich asesiad os oes angen dehonglydd iaith neu BSL arnoch ar gyfer eich asesiad. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gallwn gael dehonglydd ar eich cyfer.
Trefniadau apwyntiad
Byddwn yn anfon llythyr gyda'ch dyddiad asesu. Bydd gan eich llythyr apwyntiad rif cyswllt a gwybodaeth am yr asesiad. Darllenwch y llythyr hwn cyn eich asesiad.
Os oes angen help arnoch cyn eich asesiad, ffoniwch ein tîm Ymholiadau Cwsmeriaid ar 0800 072 0222. Gallwch ein ffonio am ofynion penodol, dehonglwyr, cydymaith awdurdodedig, ceisiadau recordio sain, a mwy.
Beth sy'n digwydd gyda'ch cefnogaeth cyn eich asesiad
Tra byddwch yn aros i'ch asesiad gael ei gwblhau, byddwch yn derbyn taliad y gyfradd asesu a ddynodir o dan ESA. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar wefan gov.uk.
Sylwch bod ffactorau gwahanol yn cael eu hystyried a all effeithio ar eich hawl i fudd-dal. Am ragor o wybodaeth, ewch i gov.uk.
Mae'r llinell ymholiadau cwsmeriaid ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm, a dydd Sadwrn 9am tan 5pm.
Tystiolaeth bellach
Mae angen i ni hefyd weld unrhyw dystiolaeth feddygol neu wybodaeth arall sydd gennych eisoes, megis adroddiadau, cynlluniau gofal neu driniaeth amdanoch gan feddygon teulu, meddygon ysbyty, nyrsys arbenigol, nyrsys seiciatryddol cymunedol, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymorth, tîm cymorth anabledd dysgu, cwnselwyr neu ofalwyr.
Pethau yr hoffai Capita eu gweld os oes gennych chi rai eisoes: | Mae'r pethau nad oes angen i Capita eu gweld yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am eich cyflyrau meddygol nad ydynt yn ymwneud â chi'n bersonol. |
---|---|
|
|
Efallai y gofynnir eich ffurflen ESA50 i chi am fanylion y gweithwyr proffesiynol neu'r gofalwyr sy'n gwybod fwyaf am eich cyflyrau iechyd, salwch ac anableddau. Ehangwch ar y rhestr isod i ganfod pwy allai’r rhain fod:
Gallai'r rhain fod yn:
- Ymgynghorydd neu Feddyg Arbenigol
- Seiciatrydd
- Nyrs Arbenigol, fel Nyrs Seiciatrig Gymunedol
- Ffisiotherapydd
- Therapydd Galwedigaethol
- Gweithiwr Cymdeithasol
- Gweithiwr cymorth neu gynorthwyydd personol
- Gofalwr
Cofiwch – anfonwch gopïau o wybodaeth feddygol neu wybodaeth arall atom os oes gennych chi nhw eisoes yn unig. Peidiwch â gofyn na thalu am wybodaeth newydd nac anfon dogfennau gwreiddiol atom. Ysgrifennwch eich rhif Yswiriant Gwladol ar bob darn o wybodaeth a anfonwch atom.
Os nad ydych wedi derbyn ffurflen ESA50 eto, gallai fod yn haws i chi os byddwch yn dechrau casglu peth o'ch gwybodaeth feddygol ymlaen llaw. Mae'r ffurflen hon yn ein galluogi i benderfynu pa fath o asesiad efallai y bydd ei hangen arnoch.
Cyn gynted ag y byddwch wedi cwblhau'r ffurflen, mae angen i chi ei llofnodi a'i dyddio, a'i dychwelyd yn yr amlen a ddarparwyd gennym. Mae'n bwysig eich bod yn dychwelyd y ffurflen cyn y dyddiad y mae’n ddyledus.
Efallai na fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu parhau i dalu budd-daliadau i chi os na fyddwn yn derbyn y ffurflen hon mewn pryd.
Os na allwch ddychwelyd y ffurflen mewn pryd, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Mae yna hefyd flwch sy'n eich galluogi i esbonio pam roedd eich ffurflen yn hwyr. Os oes gennych unrhyw bryderon o gwbl am y ffurflen, cysylltwch â Capita cyn gynted ag y gallwch neu gofynnwch i gynrychiolydd gysylltu â Capita.
Yn ystod eich asesiad
Gall y cwestiynau asesu gynnwys:
- Pryd ddechreuodd eich salwch neu anabledd
- Sut mae'ch cyflwr yn newid o ddydd i ddydd
- Sut mae'n effeithio ar eich bywyd bob dydd
- Sut mae'n effeithio ar eich hwyliau a'r ffordd rydych chi'n ymddwyn
- Sut rydych chi'n ymdopi â phethau o ddydd i ddydd
Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn cofnodi gwybodaeth am eich poen, blinder a'r feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd.
Rydym yn darparu adroddiad asesiad i'r DWP sy'n ddiduedd ac yn darparu cyngor meddygol wedi’i gyfiawnhau ynghylch sut mae eich cyflwr meddygol yn effeithio arnoch ar hyn o bryd. Mae hyn yn dilyn deddfwriaeth y llywodraeth a'r prosesau y cytunwyd arnynt gan DWP.
Y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol
Mae ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ddoctoriaid, nyrsys a ffisiotherapyddion sydd wedi'u cofrestru gyda’u corff llywodraethu. Maent yn mynd trwy gwrs hyfforddi a ddyluniwyd yn benodol, a gymeradwyir gan y DWP.
Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig a chymwysedig yn cynnal eich asesiad dros y ffôn. Byddent yn trafod eich gallu i gwblhau tasgau dyddiol gyda’ch anabledd, salwch neu gyflwr iechyd.
Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn cwestiynau i chi ac yn nodi'ch atebion. Dylai'r asesiad dros y ffôn bara rhwng 20 munud ac 1 awr, ond gallai gymryd mwy o amser os bydd angen.
Dod â rhywun gyda chi i’r asesiad
Mae croeso i chi ddod â pherthynas, gofalwr neu ffrind gyda chi. Er y bydd yr asesiad yn canolbwyntio arnoch chi, gall cydymaith gynnig cefnogaeth ddefnyddiol i chi. Fel arfer, hwn byddai’r person sy’n eich adnabod orau ac sy’n eich deall chi a’ch anghenion. Er enghraifft, gall hwn fod yn berthynas, gweithiwr cymorth neu ffrind, ond mae’n rhaid iddynt fod yn 16 oed neu throsodd.
Os na all eich gweithiwr cymorth neu’ch ffrind fod gyda chi mewn person, gallwch eu hychwanegu i’r alwad ffôn. Byddwn yn gofyn i chi am eu rhif a bydd angen iddynt fod yn barod i ateb y ffôn ar adeg eich apwyntiad.
Byddwch yn barod i'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol eich ffonio 10 munud cyn eich apwyntiad ffôn. Sicrhewch bod eich ffôn wedi’i wefru'n llawn. Ewch i rywle tawel gyda signal da a dim sŵn cefndir. Meddyliwch am yr hyn fydd yn gwneud yr alwad ffôn yn fwy cyfforddus, er enghraifft defnyddio clustffonau a chael diod o ddŵr wrth law.
Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cyflwyno eu hunain ac yn esbonio'r asesiad i chi. Byddant yn cofnodi gwybodaeth ar gyfrifiadur. Efallai na fydd rhai cwestiynau'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch cyflwr meddygol, ond â gweithgareddau dyddiol.
Cymryd nodiadau
Mae croeso i chi neu'ch cydymaith gymryd nodiadau at eich defnydd personol. Ni fydd eich nodiadau yn rhan o'r adroddiad meddygol a anfonwn at y DWP.
Bydd yr adroddiad asesu yn disgrifio'ch cyflyrau meddygol a'r gweithgareddau rydych chi'n eu gwneud mewn diwrnod arferol. Bydd hefyd yn cynnwys sylwadau'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Mae'r adroddiad yn un darn o wybodaeth a ddefnyddir gan y DWP wrth benderfynu ar eich cais. Nid yw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n cynnal eich asesiad yn gwneud unrhyw benderfyniad am eich lwfans, eich budd-daliadau na’ch credydau.
Penderfyniadau ar geisiadau
Bydd y DWP yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais.
Mae’r DWP yn gwneud penderfyniadau ar geisiadau. Dylech gyfeirio unrhyw gwestiynau neu bryderon am ganlyniad eich cais i swyddfa’r DWP sy’n ymdrin â’ch cais. Byddant yn gwybod pa wybodaeth y maent wedi’i defnyddio i benderfynu ar eich hawl. Nid yw Capita yn cymryd rhan yn y broses benderfynu ac nid yw’n gwybod canlyniad asesiadau.
*[DWP]: Department for Work and Pensions
*[ESA]: Employment and Support Allowance
*[BSL]: Iaith Arwyddion Prydain
